Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
II S WelBeibl 2:1  Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD a gofyn, “Ddylwn i symud i fyw i un o drefi Jwda?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos!”. “I ba un?” meddai Dafydd. “I Hebron,” oedd yr ateb.
II S WelBeibl 2:2  Felly aeth Dafydd yno, gyda'i ddwy wraig, Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.
II S WelBeibl 2:3  A dyma'r dynion oedd wedi bod gydag e, a'u teuluoedd, yn mynd gyda Dafydd i fyw yn y trefi yn ardal Hebron.
II S WelBeibl 2:4  Yna dyma ddynion Jwda yn dod ac eneinio Dafydd yn frenin ar bobl Jwda. Clywodd Dafydd mai pobl Jabesh yn Gilead oedd wedi claddu Saul.
II S WelBeibl 2:5  Felly dyma fe'n anfon neges atyn nhw, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi am fod mor deyrngar i'ch meistr Saul, a'i gladdu.
II S WelBeibl 2:6  Boed i'r ARGLWYDD fod yn garedig a ffyddlon i chi. Dw i hefyd yn mynd i'ch gwobrwyo chi am wneud hyn.
II S WelBeibl 2:7  Peidiwch bod ag ofn. Byddwch yn ddewr! Er bod eich meistr, Saul, wedi marw, mae pobl Jwda wedi fy eneinio i yn frenin arnyn nhw.”
II S WelBeibl 2:8  Yn y cyfamser, roedd Abner fab Ner, un o gapteiniaid byddin Saul, wedi cymryd Ish-bosheth, mab Saul, a mynd ag e drosodd i Machanaîm.
II S WelBeibl 2:9  Yno roedd wedi'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan – gan gynnwys ardal Gilead, pobl Asher, Jesreel, Effraim a Benjamin.
II S WelBeibl 2:10  Roedd Ish-bosheth, mab Saul, yn bedwar deg oed pan ddaeth yn frenin ar Israel. Bu'n frenin arnyn nhw am ddwy flynedd. Ond roedd pobl Jwda yn dilyn Dafydd.
II S WelBeibl 2:11  Bu Dafydd yn frenin yn Hebron am saith mlynedd a hanner.
II S WelBeibl 2:12  Yna dyma Abner fab Ner a swyddogion milwrol Ish-bosheth, mab Saul, yn mynd o Machanaîm i Gibeon.
II S WelBeibl 2:13  A dyma Joab, mab Serwia, a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon.
II S WelBeibl 2:14  Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno.
II S WelBeibl 2:15  Felly dyma nhw'n cyfri un deg dau o lwyth Benjamin ar ochr Ish-bosheth, ac un deg dau o swyddogion Dafydd.
II S WelBeibl 2:16  Wrth reslo gyda'i gilydd dyma pob un yn gwthio'i gleddyf i ochr ei wrthwynebydd, a dyma nhw i gyd yn syrthio'n farw. (Dyna pam maen nhw'n galw'r lle hwnnw yn Gibeon yn ‛Faes y Llafnau‛.)
II S WelBeibl 2:17  Roedd yr ymladd yn galed y diwrnod hwnnw, a chafodd Abner a byddin Israel eu trechu gan filwyr Dafydd.
II S WelBeibl 2:18  Roedd tri mab Serwia yno, sef Joab, Abishai ac Asahel. Roedd Asahel yn gallu rhedeg mor gyflym â gasél,
II S WelBeibl 2:19  a dyma fe'n mynd ar ôl Abner. Roedd yn gwbl benderfynol o'i ddal.
II S WelBeibl 2:20  Dyma Abner yn troi i edrych yn ôl a galw arno, “Ai ti ydy e Asahel?” “Ie, fi!” meddai Asahel.
II S WelBeibl 2:21  “Dos ar ôl rhywun arall. Dal un o'r milwyr ifanc a chymryd ei arfau e,” meddai Abner wrtho. Ond doedd Asahel ddim yn fodlon rhoi'r gorau iddi.
II S WelBeibl 2:22  Galwodd Abner arno eto, “Tro yn ôl! Does gen i ddim eisiau dy ladd di. Sut allwn i wynebu Joab dy frawd?”
II S WelBeibl 2:23  Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan drwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn.
II S WelBeibl 2:24  Yna dyma Joab ac Abishai yn mynd ar ôl Abner. Erbyn iddi nosi roedden nhw wedi cyrraedd bryn Amma sydd gyferbyn â Giach, i gyfeiriad anialwch Gibeon.
II S WelBeibl 2:25  Roedd dynion Benjamin wedi casglu at ei gilydd yno ac yn sefyll gydag Abner yn un grŵp ar ben y bryn.
II S WelBeibl 2:26  A dyma Abner yn gweiddi ar Joab, “Ydyn ni'n mynd i ddal ati i ladd ein gilydd am byth? Os daliwn ni ati bydd pethau yn ofnadwy o chwerw yn y diwedd. Dwed wrth dy ddynion am stopio mynd ar ôl eu brodyr!”
II S WelBeibl 2:27  Dyma Joab yn ei ateb, “Petaet ti heb ddweud hyn, mor sicr â bod Duw yn fyw, byddai'r dynion wedi dal ati i fynd ar eich ôl chi drwy'r nos!”
II S WelBeibl 2:28  Yna dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a dyma nhw'n stopio mynd ar ôl Israel, a rhoi'r gorau i'r ymladd.
II S WelBeibl 2:29  Y noson honno dyma Abner a'i ddynion yn croesi Dyffryn Iorddonen, a martsio yn eu blaenau drwy'r bore wedyn nes cyrraedd yn ôl i Machanaîm.
II S WelBeibl 2:30  Roedd Joab wedi stopio mynd ar ôl Abner, a dyma fe'n galw'i filwyr at ei gilydd. Dim ond un deg naw o ddynion Dafydd oedd wedi'u colli, ar wahân i Asahel.
II S WelBeibl 2:31  Ond roedd milwyr Dafydd wedi rhoi crasfa go iawn i ddynion Benjamin, sef byddin Abner – roedd tri chant chwe deg ohonyn nhw wedi'u lladd.
II S WelBeibl 2:32  Dyma Joab a'i filwyr yn cymryd corff Asahel a'i gladdu ym medd ei dad yn Bethlehem. Wedyn, dyma nhw'n teithio drwy'r nos a chyrraedd yn ôl i Hebron wrth iddi wawrio.