Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 1
II S WelBeibl 1:1  Roedd Saul wedi marw, a Dafydd wedi mynd yn ôl i Siclag ar ôl gorchfygu'r Amaleciaid. Roedd wedi bod yno am ddeuddydd
II S WelBeibl 1:2  pan ddaeth dyn ato y diwrnod wedyn o wersyll Saul. Roedd y dyn wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Dyma fe'n dod at Dafydd a mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen.
II S WelBeibl 1:3  “O ble wyt ti wedi dod?” gofynnodd Dafydd. A dyma fe'n ateb, “Wedi dianc o wersyll Israel ydw i.”
II S WelBeibl 1:4  “Dwed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a chafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi'u lladd hefyd!”
II S WelBeibl 1:5  A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?”
II S WelBeibl 1:6  A dyma fe'n ateb, “Rôn i ar Fynydd Gilboa, a dyma fi'n digwydd dod ar draws Saul yn pwyso ar ei waywffon. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion y gelyn yn dod yn agos ato.
II S WelBeibl 1:7  Trodd rownd, a dyma fe'n fy ngweld i a galw arna i. ‘Dyma fi,’ meddwn i.
II S WelBeibl 1:8  ‘Pwy wyt ti?’ gofynnodd. A dyma fi'n ateb, ‘Amaleciad ydw i.’
II S WelBeibl 1:9  A dyma fe'n crefu arna i, ‘Tyrd yma a'm lladd i. Dw i'n wan ofnadwy, a prin yn dal yn fyw.’
II S WelBeibl 1:10  Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi'i anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.”
II S WelBeibl 1:11  Dyma Dafydd yn rhwygo'i ddillad; a gwnaeth y dynion oedd gydag e yr un fath.
II S WelBeibl 1:12  Buon nhw'n galaru, yn wylo ac ymprydio drwy'r dydd dros Saul a'i fab Jonathan, a dros fyddin yr ARGLWYDD, pobl Israel oedd wedi cael eu lladd yn y frwydr.
II S WelBeibl 1:13  Gofynnodd Dafydd i'r dyn ifanc oedd wedi dod â'r neges iddo, “Un o ble wyt ti?” “Mab i Amaleciad wnaeth symud yma i fyw ydw i,” atebodd y dyn.
II S WelBeibl 1:14  “Sut bod gen ti ddim ofn lladd y dyn roedd yr ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin?” meddai Dafydd.
II S WelBeibl 1:15  Yna galwodd un o'i filwyr draw, a dweud wrtho, “Tyrd yma. Lladd e!” A dyma'r milwr yn ei ladd yn y fan a'r lle.
II S WelBeibl 1:16  Roedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Arnat ti mae'r bai dy fod ti'n mynd i farw. Ti wedi tystio yn dy erbyn dy hun drwy ddweud mai ti laddodd yr un roedd yr ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin.”
II S WelBeibl 1:17  Dyma Dafydd yn cyfansoddi'r gân yma i alaru am Saul a'i fab Jonathan.
II S WelBeibl 1:18  (Dwedodd fod pobl Jwda i'w dysgu hi – Cân y Bwa. Mae hi i'w chael yn Sgrôl Iashar):
II S WelBeibl 1:19  Mae ysblander Israel yn gorwedd yn farw ar ei bryniau. O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio!
II S WelBeibl 1:20  Peidiwch dweud am y peth yn Gath, peidiwch sôn am hyn ar strydoedd Ashcelon – rhag i ferched y Philistiaid orfoleddu, a merched y paganiaid ddathlu.
II S WelBeibl 1:21  Boed dim mwy o wlith a glaw ar fynyddoedd Gilboa! Dim mwy o gnydau'n tyfu yno! Dyna lle cafodd tarianau'r arwyr eu baeddu; mae tarian Saul yn dirywio, heb ei rhwbio ag olew.
II S WelBeibl 1:22  Roedd bwa saeth Jonathan bob amser yn tynnu gwaed ac yn taro cnawd milwyr y gelyn. Doedd cleddyf Saul byth yn dod yn ôl yn lân.
II S WelBeibl 1:23  Saul a Jonathan – mor annwyl, mor boblogaidd! Gyda'i gilydd wrth fyw ac wrth farw! Yn gyflymach nag eryrod, yn gryfach na llewod.
II S WelBeibl 1:24  Ferched Israel, wylwch am Saul. Fe oedd yn rhoi dillad drud i chi a thlysau aur i'w haddurno.
II S WelBeibl 1:25  Mae'r arwyr dewr wedi syrthio'n y frwydr. Mae Jonathan yn gorwedd yn farw ar y bryniau.
II S WelBeibl 1:26  Dw i'n galaru ar dy ôl di Jonathan, fy mrawd. Roeddet ti mor annwyl i mi. Roedd dy gariad di ata i mor sbesial, roedd yn well na chariad merched.
II S WelBeibl 1:27  O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio; mae'r arfau rhyfel wedi mynd!