II SAMUEL
Chapter 7
| II S | WelBeibl | 7:1 | Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch i'r wlad, ac roedd y Brenin Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas. | |
| II S | WelBeibl | 7:2 | A dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch Duw yn dal mewn pabell.” | |
| II S | WelBeibl | 7:3 | A dyma Nathan yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.” | |
| II S | WelBeibl | 7:5 | “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi? | |
| II S | WelBeibl | 7:6 | Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o le i le mewn pabell. | |
| II S | WelBeibl | 7:7 | Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r rhai wnes i eu penodi i ofalu am lwythau Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’ | |
| II S | WelBeibl | 7:8 | “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. | |
| II S | WelBeibl | 7:9 | Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog drwy'r byd i gyd. | |
| II S | WelBeibl | 7:10 | Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen, | |
| II S | WelBeibl | 7:11 | pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae'r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol! | |
| II S | WelBeibl | 7:12 | Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu, bydda i'n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti. A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn. | |
| II S | WelBeibl | 7:13 | Bydd e'n adeiladu teml i'm anrhydeddu i; a bydda i'n gwneud yn siŵr y bydd e'n teyrnasu am byth. | |
| II S | WelBeibl | 7:14 | Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi. Pan fydd e'n gwneud drwg bydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi. | |
| II S | WelBeibl | 7:15 | Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo, yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di. | |
| II S | WelBeibl | 7:16 | Bydd dy deulu di yn teyrnasu o mlaen i am byth. Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’” | |
| II S | WelBeibl | 7:18 | Yna dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD, pwy ydw i? Dw i'n neb, na'm teulu chwaith. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! | |
| II S | WelBeibl | 7:19 | Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma'r ffordd wyt ti'n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD? | |
| II S | WelBeibl | 7:21 | Am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma a dweud wrtho i amdanyn nhw. | |
| II S | WelBeibl | 7:22 | “O, Feistr, ARGLWYDD, rwyt ti mor fawr! Does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall yn bod heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! | |
| II S | WelBeibl | 7:23 | A phwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear – yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw. | |
| II S | WelBeibl | 7:24 | Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. | |
| II S | WelBeibl | 7:25 | Felly, ARGLWYDD Dduw, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel rwyt ti wedi addo. | |
| II S | WelBeibl | 7:26 | Wedyn byddi'n enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig, | |
| II S | WelBeibl | 7:27 | am dy fod ti, yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo fel hyn arnat ti. | |
| II S | WelBeibl | 7:28 | Nawr, ARGLWYDD, fy meistr, ti ydy'r Duw go iawn, ac mae dy eiriau di'n wir. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i mi. | |