Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 11
Josh WelBeibl 11:1  Pan glywodd Jabin, brenin Chatsor, beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal honno – Iobab brenin Madon, brenin Shimron, brenin Achsaff,
Josh WelBeibl 11:2  a'r brenhinoedd oedd yn teyrnasu yn y bryniau i'r gogledd, yn Nyffryn Iorddonen i'r de o Lyn Galilea, ac ar yr iseldir ac arfordir Dor i'r gorllewin.
Josh WelBeibl 11:3  Daeth Canaaneaid o gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebwsiaid o'r bryniau, a Hefiaid o'r ardal wrth droed Mynydd Hermon yn Mitspa.
Josh WelBeibl 11:4  Daeth y brenhinoedd yma i gyd allan gyda'i byddinoedd – roedd gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ac roedd ganddyn nhw lot fawr o geffylau a cherbydau rhyfel.
Josh WelBeibl 11:5  Daethon nhw i gyd at ei gilydd wrth ffynnon Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
Josh WelBeibl 11:6  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Erbyn tua'r adeg yma yfory bydda i wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gorwedd yn farw o flaen Israel. Gwna eu ceffylau yn gloff, a llosga eu cerbydau rhyfel.”
Josh WelBeibl 11:7  Felly dyma Josua a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw yn ddirybudd wrth Ddyfroedd Merom.
Josh WelBeibl 11:8  Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd i Ddyffryn Mitspe yn y dwyrain, a'u taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw.
Josh WelBeibl 11:9  Wedyn dyma Josua yn gwneud y ceffylau'n gloff ac yn llosgi'r cerbydau rhyfel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
Josh WelBeibl 11:10  Yna dyma Josua'n troi yn ôl a choncro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.)
Josh WelBeibl 11:11  Dyma nhw'n lladd pawb yno – gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. A dyma nhw'n llosgi'r dref.
Josh WelBeibl 11:12  Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn.
Josh WelBeibl 11:13  Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi oedd wedi'u hadeiladu ar garnedd, ar wahân i Chatsor – hi oedd yr unig un gafodd ei llosgi.
Josh WelBeibl 11:14  Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.
Josh WelBeibl 11:15  Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Moses.
Josh WelBeibl 11:16  Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen, a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd.
Josh WelBeibl 11:17  Concrodd bobman o fynydd Halac, sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn Nyffryn Libanus, wrth droed Mynydd Hermon. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd.
Josh WelBeibl 11:18  Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn.
Josh WelBeibl 11:19  Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (dim ond yr Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd.
Josh WelBeibl 11:20  Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi'u gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.
Josh WelBeibl 11:21  Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a'i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau – yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio'u trefi.
Josh WelBeibl 11:22  Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod.
Josh WelBeibl 11:23  Felly roedd Josua wedi concro'r wlad i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu'r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un. Ac roedd heddwch yn y wlad.