Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PHILIPPIANS
1 2 3 4
Prev Up Next
Chapter 3
Phil WelBeibl 3:1  Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi'n perthyn i'r Arglwydd! Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu'r un peth atoch chi. Dw i'n gwneud hynny i'ch amddiffyn chi.
Phil WelBeibl 3:2  Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg – y cŵn annifyr! Y rhai sy'n dweud fod rhaid torri'r cnawd â chyllell i gael eich achub!
Phil WelBeibl 3:3  Ni, dim nhw, ydy'r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy'n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy'n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi'i wneud i'r corff.
Phil WelBeibl 3:4  Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb!
Phil WelBeibl 3:5  Ces i fy enwaedu yn wythnos oed; dw i'n dod o dras Iddewig pur; dw i'n aelod o lwyth Benjamin; dw i'n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni; roeddwn i'n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl;
Phil WelBeibl 3:6  roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol. Yn ôl y safonau mae'r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i.
Phil WelBeibl 3:7  Rôn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach.
Phil WelBeibl 3:8  Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael
Phil WelBeibl 3:9  perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo!
Phil WelBeibl 3:10  Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto!
Phil WelBeibl 3:11  Bydda innau wedyn yn cael rhannu'r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.
Phil WelBeibl 3:12  Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i'n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae'r Meseia Iesu wedi'i fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i'w ddilyn.
Phil WelBeibl 3:13  Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i'n ei ddweud ydy hyn: Dw i'n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i.
Phil WelBeibl 3:14  Fel taswn i mewn ras, dw i'n rhedeg at y llinell derfyn gyda'r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i'r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.
Phil WelBeibl 3:15  Felly gadewch i bob un ohonon ni sy'n ‛berffaith‛ fod â'r un agwedd. Os dych chi'n gweld pethau'n wahanol, dw i'n credu y bydd Duw yn dangos eich camgymeriad i chi.
Phil WelBeibl 3:16  Beth bynnag, gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy'n wir.
Phil WelBeibl 3:17  Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy'n byw fel yma – dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi.
Phil WelBeibl 3:18  Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i'n dweud yr un peth eto gyda dagrau – mae llawer yn byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod nhw'n elynion i'r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes.
Phil WelBeibl 3:19  Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy'n addoli beth maen nhw'n ei fwyta – dyna'r duw sy'n eu rheoli nhw! Dynion sy'n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau'r byd ydy'r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw.
Phil WelBeibl 3:20  Ond dŷn ni'n wahanol. Dŷn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd.
Phil WelBeibl 3:21  Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â'i gorff rhyfeddol ei hun, drwy'r grym sy'n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun.