PHILIPPIANS
Chapter 2
Phil | WelBeibl | 2:1 | Os ydy perthyn i'r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy'r Ysbryd yn eich clymu chi'n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig | |
Phil | WelBeibl | 2:2 | – yna gwnewch fi'n wirioneddol hapus drwy rannu'r un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas. | |
Phil | WelBeibl | 2:3 | Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill. | |
Phil | WelBeibl | 2:6 | Roedd e'n rhannu'r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; | |
Phil | WelBeibl | 2:7 | ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn. | |
Phil | WelBeibl | 2:8 | Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw – ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes. | |
Phil | WelBeibl | 2:10 | Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu – pawb yn y nefoedd, ar y ddaear, a than y ddaear; | |
Phil | WelBeibl | 2:11 | a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy'r Arglwydd, ac yn rhoi clod i Dduw y Tad. | |
Phil | WelBeibl | 2:12 | Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi'n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae'n bwysicach fyth eich bod chi'n ufudd pan dw i'n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned. | |
Phil | WelBeibl | 2:13 | Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu'r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. | |
Phil | WelBeibl | 2:15 | er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr | |
Phil | WelBeibl | 2:16 | wrth i chi rannu'r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i'n gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i'n gwybod na fuodd yr holl redeg a'r gwaith caled yn wastraff amser. | |
Phil | WelBeibl | 2:17 | Mae'n bosib iawn y bydda i'n marw fel merthyr, a'm gwaed i'n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi'n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i'n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi. | |
Phil | WelBeibl | 2:19 | Dw i'n gobeithio anfon Timotheus atoch chi'n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i. | |
Phil | WelBeibl | 2:20 | Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae'n teimlo'n union fel dw i'n teimlo – mae ganddo'r fath gonsýrn drosoch chi. | |
Phil | WelBeibl | 2:21 | Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy'n bwysig i Iesu Grist. | |
Phil | WelBeibl | 2:22 | Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad. | |
Phil | WelBeibl | 2:23 | Felly dw i'n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd i mi. | |
Phil | WelBeibl | 2:24 | Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i'ch gweld chi'n fuan! | |
Phil | WelBeibl | 2:25 | Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi – brawd ffyddlon arall sy'n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i'm helpu i pan oeddwn i angen help. | |
Phil | WelBeibl | 2:26 | Mae wedi bod yn hiraethu amdanoch chi, ac yn poeni'n fawr eich bod wedi clywed ei fod wedi bod yn sâl. | |
Phil | WelBeibl | 2:27 | Mae'n wir, roedd e'n wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duw'n garedig ato – ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch. | |
Phil | WelBeibl | 2:28 | Dyna pam dw i mor awyddus i'w anfon yn ôl atoch chi. Dw i'n gwybod y byddwch chi mor llawen o'i weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint. | |