Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 11
Reve WelBeibl 11:1  Dyma wialen hir fel ffon fesur yn cael ei rhoi i mi, a dwedwyd wrtho i, “Dos i fesur teml Dduw a'r allor, a hefyd cyfri faint o bobl sy'n addoli yno.
Reve WelBeibl 11:2  Ond paid cynnwys y cwrt allanol, am fod hwnnw wedi'i roi i bobl o genhedloedd eraill. Byddan nhw'n cael rheoli'r ddinas sanctaidd am bedwar deg dau mis.
Reve WelBeibl 11:3  Yna bydda i'n rhoi awdurdod i'r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw'n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.”
Reve WelBeibl 11:4  Nhw ydy'r ddwy goeden olewydd a'r ddwy ganhwyllbren sy'n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear.
Reve WelBeibl 11:5  Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o'u cegau ac yn dinistrio'u gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw.
Reve WelBeibl 11:6  Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw'n proffwydo; ac mae ganddyn nhw'r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro'r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau.
Reve WelBeibl 11:7  Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy'n dod allan o'r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a'u lladd.
Reve WelBeibl 11:8  Bydd eu cyrff yn gorwedd ar brif stryd y ddinas fawr (sy'n cael ei galw yn broffwydol yn ‛Sodom‛ ac ‛Aifft‛) – y ddinas lle cafodd eu Harglwydd nhw ei groeshoelio.
Reve WelBeibl 11:9  Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu.
Reve WelBeibl 11:10  Bydd y bobl sy'n perthyn i'r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i'w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod yn gymaint o boen iddyn nhw.
Reve WelBeibl 11:11  Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw'n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Reve WelBeibl 11:12  Wedyn dyma nhw'n clywed llais pwerus o'r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i'r nefoedd, tra oedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd.
Reve WelBeibl 11:13  Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o'r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n dechrau clodfori Duw'r nefoedd mewn panig.
Reve WelBeibl 11:14  Mae'r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.
Reve WelBeibl 11:15  Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae teyrnas y byd wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia, a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”
Reve WelBeibl 11:16  A dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw,
Reve WelBeibl 11:17  gan ddweud: “Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un sydd ac oedd, am gymryd yr awdurdod sydd gen ti a dechrau teyrnasu.
Reve WelBeibl 11:18  Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio; ond nawr mae'n amser i ti fod yn ddig. Mae'r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw, ac i wobrwyo dy weision y proffwydi a'th bobl dy hun, a'r rhai sy'n parchu dy enw di, yn fawr a bach – a hefyd i ddinistrio'n llwyr y rhai hynny sy'n dinistrio'r ddaear.”
Reve WelBeibl 11:19  Yna dyma ddrysau teml Dduw yn y nefoedd yn agor, ac roedd modd gweld arch yr ymrwymiad y tu mewn iddi. Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn a storm fawr o genllysg.