RUTH
Chapter 1
Ruth | WelBeibl | 1:1 | Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â'i wraig a'i ddau fab gydag e. | |
Ruth | WelBeibl | 1:2 | Elimelech oedd enw'r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion oedd enwau'r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw'n mynd i wlad Moab ac yn aros yno. | |
Ruth | WelBeibl | 1:3 | Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a'i gadael hi yn weddw gyda'i dau fab. | |
Ruth | WelBeibl | 1:4 | Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab. (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall.) Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd, | |
Ruth | WelBeibl | 1:6 | Tra oedd hi'n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i'w bobl. Felly, dyma hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab. | |
Ruth | WelBeibl | 1:7 | Dyma nhw'n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a chychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda. | |
Ruth | WelBeibl | 1:8 | Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw. | |
Ruth | WelBeibl | 1:9 | A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi'ch dwy briodi eto.” Wedyn dyma Naomi yn cusanu'r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw'n dechrau crio'n uchel. | |
Ruth | WelBeibl | 1:11 | Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Gaf i byth feibion eto i chi eu priodi nhw. | |
Ruth | WelBeibl | 1:12 | Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i'n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau'n cael gŵr heno ac yn cael plant, | |
Ruth | WelBeibl | 1:13 | fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi'n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.” | |
Ruth | WelBeibl | 1:14 | Dyma nhw'n dechrau crio'n uchel eto. Wedyn dyma Orpa'n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio'n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael. | |
Ruth | WelBeibl | 1:15 | Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.” | |
Ruth | WelBeibl | 1:16 | Ond atebodd Ruth, “Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di a throi cefn arnat ti. Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi. | |
Ruth | WelBeibl | 1:17 | Ble bynnag fyddi di'n marw, dyna lle fyddai i'n marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni'n dwy.” | |
Ruth | WelBeibl | 1:18 | Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth. | |
Ruth | WelBeibl | 1:19 | A dyma'r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem. Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?” | |
Ruth | WelBeibl | 1:20 | A dyma hi'n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‛Naomi‛. Galwch fi'n ‛Mara‛. Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i'n chwerw iawn. | |
Ruth | WelBeibl | 1:21 | Roedd fy mywyd i'n llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi'n ‛Naomi‛ pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a'r Un sy'n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.” | |