I SAMUEL
Chapter 29
| I Sa | WelBeibl | 29:1 | Roedd y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, a dyma Israel yn codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel. | |
| I Sa | WelBeibl | 29:2 | Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd), ac yn y cefn roedd Dafydd a'i ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achish. | |
| I Sa | WelBeibl | 29:3 | “Pwy ydy'r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e,” meddai Achish wrthyn nhw. “Roedd e'n arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.” | |
| I Sa | WelBeibl | 29:4 | Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achish, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda phennau'r dynion yma? | |
| I Sa | WelBeibl | 29:5 | Hwn ydy'r Dafydd roedden nhw'n canu amdano wrth ddawnsio, ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!’” | |
| I Sa | WelBeibl | 29:6 | Felly dyma Achish yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di'n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy'r arweinwyr eraill ddim yn hapus. | |
| I Sa | WelBeibl | 29:8 | “Ond be dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai Dafydd. “O'r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi'i gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?” | |
| I Sa | WelBeibl | 29:9 | Atebodd Achish e, “Dw i'n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw. | |
| I Sa | WelBeibl | 29:10 | Felly, coda'n gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hi'n olau.” | |