Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I SAMUEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 12
I Sa WelBeibl 12:1  Dyma Samuel yn dweud wrth bobl Israel: “Edrychwch, dw i wedi gwneud popeth dych chi wedi'i ofyn, ac wedi rhoi brenin i chi.
I Sa WelBeibl 12:2  O hyn ymlaen, y brenin fydd yn eich arwain chi. Dw i'n hen ŵr a'm gwallt yn wyn, ond mae fy meibion i gyda chi. Dw i wedi'ch arwain chi ers pan oeddwn i'n ifanc.
I Sa WelBeibl 12:3  Dyma fi. Dewch, cyhuddwch fi o flaen yr ARGLWYDD a'r un mae e wedi'i eneinio'n frenin. Ydw i wedi cymryd ych rhywun? Ydw i wedi cymryd asyn rhywun? Ydw i wedi twyllo unrhyw un? Ydw i wedi gwneud i unrhyw un ddioddef? Ydw i wedi derbyn breib gan unrhyw un i gau fy llygaid i ryw ddrwg? Dwedwch wrtho i. Gwna i dalu'r cwbl yn ôl.”
I Sa WelBeibl 12:4  Ond dyma nhw'n ateb, “Na, ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.”
I Sa WelBeibl 12:5  Yna dyma Samuel yn dweud, “Yma heddiw mae'r ARGLWYDD yn dyst, a'r brenin ddewisodd e, eich bod chi wedi cael hyd i ddim byd o gwbl yn fy erbyn i.” “Ydy, mae e'n dyst,” medden nhw.
I Sa WelBeibl 12:6  Yna dyma Samuel yn mynd ymlaen i ddweud wrth y bobl. “Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis Moses ac Aaron, ac arwain eich hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft.
I Sa WelBeibl 12:7  Safwch mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD i mi roi siars i chi, a'ch atgoffa mor deg mae'r ARGLWYDD wedi'ch trin chi a'ch hynafiaid bob amser.
I Sa WelBeibl 12:8  “Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny, dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma.
I Sa WelBeibl 12:9  Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera, capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid, a brenin Moab eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw.
I Sa WelBeibl 12:10  Ond dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’
I Sa WelBeibl 12:11  Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon, Barac, Jefftha a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff.
I Sa WelBeibl 12:12  “Ond yna pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ – pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi!
I Sa WelBeibl 12:13  Dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi'i ddewis – yr un wnaethoch chi ofyn amdano. Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi!
I Sa WelBeibl 12:14  Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn.
I Sa WelBeibl 12:15  Ond os wnewch chi ddim gwrando, a gwrthod bod yn ufudd, yna bydd yr ARGLWYDD yn eich cosbi chi a'r brenin.
I Sa WelBeibl 12:16  “Nawr safwch yma i weld rhywbeth anhygoel fydd yr ARGLWYDD yn ei wneud o flaen eich llygaid chi.
I Sa WelBeibl 12:17  Y tymor sych ydy hi ynte? Dw i'n mynd i weddïo ar Dduw, a gofyn iddo anfon glaw a tharanau! Byddwch chi'n sylweddoli wedyn peth mor ddrwg yng ngolwg Duw oedd i chi ofyn am frenin.”
I Sa WelBeibl 12:18  Yna dyma Samuel yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A'r diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon glaw a tharanau. Roedd gan y bobl i gyd ofn yr ARGLWYDD a Samuel wedyn.
I Sa WelBeibl 12:19  Ac medden nhw wrtho, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni, rhag i ni farw. Dŷn ni wedi gwneud mwy o ddrwg nag erioed drwy ofyn am frenin.”
I Sa WelBeibl 12:20  Dyma Samuel yn ateb y bobl, “Peidiwch bod ofn. Mae'n wir eich bod chi wedi gwneud yr holl bethau drwg yma. Ond nawr, peidiwch troi cefn ar yr ARGLWYDD. Addolwch e â'ch holl galon.
I Sa WelBeibl 12:21  Peidiwch â'i adael a mynd ar ôl rhyw ddelwau diwerth. All y rheiny ddim helpu nac achub neb. Dŷn nhw'n dda i ddim!
I Sa WelBeibl 12:22  Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis eich gwneud chi'n bobl iddo fe'i hun, felly fydd e ddim yn troi cefn arnoch chi. Mae e eisiau cadw ei enw da.
I Sa WelBeibl 12:23  Ac o'm rhan i fy hun, fyddwn i byth yn meiddio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy beidio gweddïo drosoch chi. Bydda i'n eich dysgu chi i fyw yn y ffordd iawn:
I Sa WelBeibl 12:24  Cofiwch barchu'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifri â'ch holl galon. Meddyliwch am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi'u gwneud i chi!
I Sa WelBeibl 12:25  Ond os byddwch chi'n mynnu dal ati i wneud drwg, bydd hi ar ben arnoch chi a'ch brenin.”