I SAMUEL
Chapter 16
| I Sa | WelBeibl | 16:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi'i wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:2 | Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e'n fy lladd i!” “Dos â heffer gyda ti,” meddai'r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i'n mynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’ | |
| I Sa | WelBeibl | 16:3 | Gwahodd Jesse i'r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o'i feibion i'w eneinio â'r olew.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:4 | Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Wyt ti'n dod yn heddychlon?” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:5 | “Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i'n dod i aberthu i'r ARGLWYDD. Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i'r aberth.” Yna dyma fe'n arwain Jesse a'i feibion drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a'u gwahodd nhw i'r aberth. | |
| I Sa | WelBeibl | 16:6 | Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i'n siŵr mai hwnna ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis yn frenin.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:7 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Paid cymryd sylw o pa mor dal a golygus ydy e. Dw i ddim wedi'i ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ag mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae'r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:8 | Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis chwaith.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:9 | Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis chwaith.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:10 | Daeth Jesse â saith o'i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o'r rhain.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:11 | Yna dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae'r lleiaf ar ôl. Mae e'n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i'w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:12 | Felly dyma Jesse'n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â'r olew.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:13 | Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o'r diwrnod hwnnw ymlaen. Yna dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama. | |
| I Sa | WelBeibl | 16:14 | Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD wedi gadael Saul. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon ysbryd drwg i'w boeni. | |
| I Sa | WelBeibl | 16:15 | Roedd ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae'n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di. | |
| I Sa | WelBeibl | 16:16 | Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy'n canu'r delyn yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e'n canu'r delyn ac yn gwneud i ti deimlo'n well.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:17 | Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy'n canu'r delyn yn dda, a dewch ag e yma.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:18 | A dyma un o'r dynion ifanc yn dweud, “Dw i'n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy'n dda ar y delyn. Mae e'n filwr dewr, yn siaradwr da, mae'n fachgen golygus ac mae'r ARGLWYDD gydag e.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:19 | Felly dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda'r defaid.” | |
| I Sa | WelBeibl | 16:20 | A dyma Jesse'n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul. | |
| I Sa | WelBeibl | 16:21 | Aeth Dafydd i weithio i Saul. Roedd Saul yn ei hoffi'n fawr, a rhoddodd y cyfrifoldeb o gario'i arfau iddo. | |
| I Sa | WelBeibl | 16:22 | Anfonodd Saul neges at Jesse yn gofyn, “Plîs gad i Dafydd aros yma i fod yn was i mi. Dw i'n hapus iawn gydag e.” | |