I SAMUEL
Chapter 25
I Sa | WelBeibl | 25:1 | Dyma Samuel yn marw, a daeth pobl Israel i gyd at ei gilydd i alaru amdano. Cafodd ei gladdu ger ei gartref yn Rama. Aeth Dafydd i lawr i anialwch Maon. | |
I Sa | WelBeibl | 25:2 | Roedd yna ddyn cyfoethog iawn yn byw yn Maon, yn cadw tir wrth ymyl Carmel. Roedd ganddo dair mil o ddefaid a mil o eifr. Roedd e yn Carmel yn cneifio'i ddefaid. | |
I Sa | WelBeibl | 25:3 | Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Roedd hi'n ddynes ddoeth, hardd iawn, ond roedd e'n ddyn blin ac annifyr. Roedd e'n dod o deulu Caleb. | |
I Sa | WelBeibl | 25:5 | Dyma fe'n anfon deg o'i weision ifanc ato. Meddai wrthyn nhw, “Ewch i weld Nabal yn Carmel, a'i gyfarch e i mi. | |
I Sa | WelBeibl | 25:6 | Dwedwch wrtho, ‘Heddwch a llwyddiant i ti a dy deulu! Gobeithio y cei di flwyddyn dda! | |
I Sa | WelBeibl | 25:7 | Rôn i'n clywed dy fod yn cneifio. Pan oedd dy fugeiliaid di gyda ni yn Carmel, wnaethon ni ddim tarfu arnyn nhw na dwyn dim. | |
I Sa | WelBeibl | 25:8 | Gofyn di i dy weision; gallan nhw ddweud wrthot ti mai felly roedd hi. Felly, wnei di fod yn garedig at fy ngweision i? Maen nhw wedi dod i dy weld ar ddydd gŵyl. Oes gen ti rywbeth i'w sbario i'w roi i dy weision ac i dy was Dafydd?’” | |
I Sa | WelBeibl | 25:9 | Felly dyma'r gweision ifanc yn mynd ac yn cyfarch Nabal ar ran Dafydd, yn union fel roedd e wedi dweud wrthyn nhw. Dyma nhw'n disgwyl | |
I Sa | WelBeibl | 25:10 | iddo ateb. Yna meddai Nabal. “Dafydd? Pwy mae e'n feddwl ydy e? Mab Jesse? Mae yna gymaint o weision yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu meistri y dyddiau yma! | |
I Sa | WelBeibl | 25:11 | Pam ddylwn i roi fy mara a'm dŵr a'm cig, sydd wedi'i baratoi i'r cneifwyr, i ryw griw o ddynion dw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw?” | |
I Sa | WelBeibl | 25:12 | Felly dyma weision Dafydd yn mynd yn ôl, a dweud y cwbl wrtho. Pan glywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd, | |
I Sa | WelBeibl | 25:13 | dyma fe'n gorchymyn i'w ddynion, “Pawb i wisgo'i gleddyf!” Ac wedi iddyn nhw i gyd wneud hynny, aeth tua pedwar cant ohonyn nhw gyda Dafydd, gan adael dau gant ar ôl gyda'r offer. | |
I Sa | WelBeibl | 25:14 | Yn y cyfamser, roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o'r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe'n gweiddi a rhegi arnyn nhw. | |
I Sa | WelBeibl | 25:15 | Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda'n gilydd yng nghefn gwlad. | |
I Sa | WelBeibl | 25:16 | Roedden nhw fel wal o'n cwmpas ni yn ein hamddiffyn ni nos a dydd yr holl amser y buon ni'n gofalu am y defaid yn yr ardal honno. | |
I Sa | WelBeibl | 25:17 | Rhaid i ti feddwl am rywbeth. Mae'n amlwg fod trychineb yn aros y meistr a'i deulu i gyd. Ond mae e'n greadur mor gas, does dim pwynt i neb ddweud dim wrtho!” | |
I Sa | WelBeibl | 25:18 | Dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a'i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi'u paratoi, pum sachaid o rawn wedi'i grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys. | |
I Sa | WelBeibl | 25:19 | Yna dyma hi'n dweud wrth ei gweision, “Ewch chi ar y blaen. Dof fi ar eich ôl.” Ond ddwedodd hi ddim am hyn wrth ei gŵr Nabal. | |
I Sa | WelBeibl | 25:20 | Roedd hi'n marchogaeth ar gefn asyn ac yn pasio heibo yng nghysgod y mynydd pan ddaeth Dafydd a'i ddynion i'w chyfarfod o'r cyfeiriad arall. | |
I Sa | WelBeibl | 25:21 | Roedd Dafydd wedi bod yn meddwl, “Roedd hi'n wastraff amser llwyr i mi warchod eiddo'r dyn yna yn yr anialwch! Gymerais i ddim oddi arno, a dyma fe nawr yn talu drwg am dda i mi. | |
I Sa | WelBeibl | 25:22 | Boed i Dduw ddial arna i os gwna i adael un o'i ddynion e yn dal yn fyw erbyn y bore!” | |
I Sa | WelBeibl | 25:23 | Pan welodd Abigail Dafydd, dyma hi'n disgyn oddi ar ei hasyn ar frys. Dyma hi'n mynd ar ei gliniau ac ymgrymu ar lawr o'i flaen. | |
I Sa | WelBeibl | 25:24 | A dyma hi'n dweud, “Arna i mae'r bai, syr. Plîs gwranda ar dy forwyn, i mi gael egluro. | |
I Sa | WelBeibl | 25:25 | Paid cymryd sylw o beth mae'r dyn annifyr yna, Nabal, yn ei ddweud. Ffŵl ydy ystyr ei enw, a ffŵl ydy e. Wnes i, dy forwyn, ddim gweld y gweision wnest ti eu hanfon. | |
I Sa | WelBeibl | 25:26 | A nawr, syr, heb unrhyw amheuaeth, mae'r ARGLWYDD am dy gadw di rhag tywallt gwaed a dial drosot ti dy hun. Boed i dy elynion, a phawb sydd am wneud drwg i ti, fod fel Nabal. | |
I Sa | WelBeibl | 25:28 | Plîs maddau i mi am fusnesa. Mae Duw yn mynd i sicrhau dy linach di, syr, am byth. Brwydrau'r ARGLWYDD wyt ti'n eu hymladd. Dwyt ti erioed wedi gwneud dim byd o'i le! | |
I Sa | WelBeibl | 25:29 | Os bydd rhywun yn codi yn dy erbyn a cheisio dy ladd di, bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy gadw di'n saff. Ond bydd bywyd dy elyn yn cael ei daflu i ffwrdd fel carreg o ffon dafl! | |
I Sa | WelBeibl | 25:30 | Pan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud popeth mae e wedi addo i ti, a dy wneud di'n arweinydd Israel, | |
I Sa | WelBeibl | 25:31 | fydd dy gydwybod ddim yn dy boeni am dy fod wedi tywallt gwaed am ddim rheswm, a dial drosot ti dy hun. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud hyn i gyd i'm meistr, cofia amdana i, dy forwyn.” | |
I Sa | WelBeibl | 25:32 | Dyma Dafydd yn ateb, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di ata i! | |
I Sa | WelBeibl | 25:33 | Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti. Ti wedi fy rhwystro i, heddiw, rhag tywallt gwaed yn ddiangen a dial trosof fy hun. | |
I Sa | WelBeibl | 25:34 | Yn wir i ti, oni bai dy fod ti wedi brysio i ddod ata i, fyddai gan Nabal ddim un dyn ar ôl yn fyw erbyn y bore. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi fy rhwystro i rhag gwneud drwg heddiw.” | |
I Sa | WelBeibl | 25:35 | Yna dyma Dafydd yn cymryd y pethau ddaeth hi â nhw iddo. “Dos adre'n dawel dy feddwl. Dw i wedi gwrando, a bydda i'n gwneud beth rwyt ti eisiau.” | |
I Sa | WelBeibl | 25:36 | Pan aeth Abigail yn ôl at Nabal roedd yn cynnal parti mawr fel petai'n frenin. Roedd yn cael amser da ac wedi meddwi'n gaib. Felly ddwedodd Abigail ddim byd o gwbl wrtho tan y bore. | |
I Sa | WelBeibl | 25:37 | Yna'r bore wedyn, ar ôl iddo sobri, dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Pan glywodd Nabal, dyma fe'n cael strôc. Roedd yn gorwedd wedi'i barlysu. | |
I Sa | WelBeibl | 25:39 | Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi dial drosto i am y sarhad ges i gan Nabal. Mae wedi fy nghadw i rhag gwneud drwg ac wedi talu nôl i Nabal.” Yna dyma Dafydd yn anfon neges at Abigail yn gofyn iddi ei briodi e. | |
I Sa | WelBeibl | 25:40 | Aeth gweision Dafydd i Carmel at Abigail a dweud wrthi, “Mae Dafydd wedi'n hanfon ni i ofyn i ti ei briodi e.” | |
I Sa | WelBeibl | 25:41 | Cododd Abigail a plygu'n isel o'u blaenau nhw, a dweud, “Byddwn i, eich morwyn chi, yn hapus i fod yn gaethferch sy'n golchi traed gweision fy meistr.” | |
I Sa | WelBeibl | 25:42 | Yna dyma hi'n brysio ar gefn ei hasyn, a mynd â phum morwyn gyda hi. Aeth yn ôl gyda gweision Dafydd, a dod yn wraig iddo. | |
I Sa | WelBeibl | 25:43 | Roedd Dafydd wedi priodi Achinoam o Jesreel hefyd. Roedd y ddwy yn wragedd iddo. | |