Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 19
I Sa WelBeibl 19:1  Dyma Saul yn cyfadde i'w fab Jonathan, a'i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd.
I Sa WelBeibl 19:2  Felly dyma fe'n rhybuddio Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg.
I Sa WelBeibl 19:3  Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di'n cuddio. Gwna i siarad ag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb. Gwna i adael i ti wybod.”
I Sa WelBeibl 19:4  Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi'i wneud wedi bod yn dda i ti.
I Sa WelBeibl 19:5  Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?”
I Sa WelBeibl 19:6  Gwrandawodd Saul ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!”
I Sa WelBeibl 19:7  Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a chafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen.
I Sa WelBeibl 19:8  Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw'n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o'i flaen.
I Sa WelBeibl 19:9  Yna dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra oedd Dafydd yn canu'r delyn.
I Sa WelBeibl 19:10  A dyma Saul yn trio trywanu Dafydd a'i hoelio i'r wal gyda'i waywffon. Ond llwyddodd Dafydd i'w hosgoi ac aeth y waywffon i'r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd. Y noson honno
I Sa WelBeibl 19:11  dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os wnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.”
I Sa WelBeibl 19:12  A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy'r ffenest, iddo redeg i ffwrdd a dianc.
I Sa WelBeibl 19:13  Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto.
I Sa WelBeibl 19:14  Wedyn pan ddaeth dynion Saul i arestio Dafydd, dyma hi'n dweud wrthyn nhw, “Mae e'n sâl.”
I Sa WelBeibl 19:15  Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.”
I Sa WelBeibl 19:16  Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw'n dod o hyd i'r eilun-ddelw yn y gwely a'r blew gafr lle byddai'r pen.
I Sa WelBeibl 19:17  “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” meddai Saul wrth Michal. A dyma hi'n ateb, “Dwedodd wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’”
I Sa WelBeibl 19:18  Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi.
I Sa WelBeibl 19:19  Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda'r gymuned yn Rama,
I Sa WelBeibl 19:20  felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.
I Sa WelBeibl 19:21  Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dechreuodd y rheiny hefyd broffwydo. Yna dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd.
I Sa WelBeibl 19:22  Yna aeth Saul ei hun i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe'n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda'r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho.
I Sa WelBeibl 19:23  Ond pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno – ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama.
I Sa WelBeibl 19:24  Wedyn dyma Saul yn tynnu ei ddillad i ffwrdd a proffwydo o flaen Samuel. Bu'n gorwedd yno'n noeth drwy'r dydd a'r nos. (Dyna pam mae pobl yn dweud, “Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”)