I SAMUEL
Chapter 17
I Sa | WelBeibl | 17:1 | Casglodd y Philistiaid eu byddin at ei gilydd yn Socho yn Jwda, i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi codi gwersyll yn Effes-dammîm rhwng Socho ac Aseca. | |
I Sa | WelBeibl | 17:2 | Roedd Saul a byddin Israel hefyd wedi codi gwersyll yn Nyffryn Ela, ac yn sefyll yn rhengoedd yn barod i ymladd yn erbyn y Philistiaid. | |
I Sa | WelBeibl | 17:3 | Roedd y Philistiaid ar ben un bryn a'r Israeliaid ar ben bryn arall, gyda'r dyffryn rhyngddyn nhw. | |
I Sa | WelBeibl | 17:4 | Daeth milwr o'r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio'r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra! | |
I Sa | WelBeibl | 17:7 | Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a'i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario'i darian o'i flaen. | |
I Sa | WelBeibl | 17:8 | Dyma fe'n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam dych chi'n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi'n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi! | |
I Sa | WelBeibl | 17:9 | Os gall e fy lladd i, byddwn ni'n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.” | |
I Sa | WelBeibl | 17:10 | Yna gwaeddodd eto, “Dw i'n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!” | |
I Sa | WelBeibl | 17:11 | Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn dyma nhw'n dechrau panicio; roedd ganddyn nhw ofn go iawn. | |
I Sa | WelBeibl | 17:12 | Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a phan oedd Saul yn frenin roedd e'n ddyn mewn oed a pharch mawr iddo. | |
I Sa | WelBeibl | 17:15 | byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem. | |
I Sa | WelBeibl | 17:16 | Yn y cyfamser, roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod. | |
I Sa | WelBeibl | 17:17 | Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Plîs, brysia draw i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi'i grasu a deg torth iddyn nhw. | |
I Sa | WelBeibl | 17:18 | A chymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a thyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn. | |
I Sa | WelBeibl | 17:20 | Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, yn gweiddi “I'r gad!” | |
I Sa | WelBeibl | 17:22 | Gadawodd Dafydd y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes. | |
I Sa | WelBeibl | 17:23 | Tra oedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A chlywodd Dafydd e. | |
I Sa | WelBeibl | 17:24 | Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn. | |
I Sa | WelBeibl | 17:25 | Roedden nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi'n gweld y dyn yna sy'n dod i fyny? Mae'n gwneud hyn i wawdio pobl Israel. Mae'r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy'n ei ladd e. Bydd y dyn hwnnw'n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.” | |
I Sa | WelBeibl | 17:26 | Dyma Dafydd yn holi'r dynion o'i gwmpas, “Be fydd y wobr i'r dyn sy'n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio'r sarhau yma ar Israel? Pwy mae'r pagan yna'n meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?” | |
I Sa | WelBeibl | 17:27 | A dyma'r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd gwobr pwy bynnag sy'n ei ladd e,” medden nhw. | |
I Sa | WelBeibl | 17:28 | Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas, ac roedd wedi gwylltio gydag e. “Pam ddest ti i lawr yma?” meddai. “Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.” | |
I Sa | WelBeibl | 17:30 | A dyma fe'n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o'r blaen. | |
I Sa | WelBeibl | 17:31 | Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Saul; a chafodd Dafydd ei alw ato. | |
I Sa | WelBeibl | 17:32 | Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i'n barod i ymladd y Philistiad yna!” | |
I Sa | WelBeibl | 17:33 | “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!” | |
I Sa | WelBeibl | 17:34 | Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o'r praidd. | |
I Sa | WelBeibl | 17:35 | Bydda i'n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o'i geg. Petai'n ymosod arna i, byddwn i'n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a'i ladd. | |
I Sa | WelBeibl | 17:36 | Syr, dw i wedi lladd llew ac arth; a bydda i'n gwneud yr un fath i'r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw! | |
I Sa | WelBeibl | 17:37 | Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a'r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A'r ARGLWYDD fo gyda ti.” | |
I Sa | WelBeibl | 17:38 | Dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e'i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a'i arfwisg bres amdano. | |
I Sa | WelBeibl | 17:39 | Wedyn, dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e'n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai e wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd. | |
I Sa | WelBeibl | 17:40 | Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o'r sychnant a'u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu'r Philistiad gyda'i ffon dafl yn ei law. | |
I Sa | WelBeibl | 17:41 | Roedd y Philistiad yn dod yn nes at Dafydd gyda'i was yn cario'i darian o'i flaen. | |
I Sa | WelBeibl | 17:42 | Pan welodd e Dafydd roedd e'n ei wfftio am mai bachgen oedd e – bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg. | |
I Sa | WelBeibl | 17:43 | A dyma fe'n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti'n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e'n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau, | |
I Sa | WelBeibl | 17:44 | a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di'n fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwyllt!” | |
I Sa | WelBeibl | 17:45 | Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti'n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i'n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti'n ei herio. | |
I Sa | WelBeibl | 17:46 | Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a thorri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwyllt! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw. | |
I Sa | WelBeibl | 17:47 | A bydd pawb sydd yma yn dod i weld mai nid gyda chleddyf a gwaywffon mae'r ARGLWYDD yn achub. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e'n eich rhoi chi yn ein gafael ni.” | |
I Sa | WelBeibl | 17:48 | Dyma'r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i'w gyfarfod. | |
I Sa | WelBeibl | 17:49 | Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr. | |
I Sa | WelBeibl | 17:50 | (Dyna sut wnaeth Dafydd guro'r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!) | |
I Sa | WelBeibl | 17:51 | Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi'i ladd, dyma nhw'n ffoi. | |
I Sa | WelBeibl | 17:52 | Yna rhuthrodd byddin Israel a Jwda ymlaen gan weiddi “I'r gad!”, a mynd ar ôl y Philistiaid ar hyd y dyffryn nes cyrraedd giatiau tref Ecron. Roedd cyrff y Philistiaid yn gorwedd yr holl ffordd o Shaaraim i Gath ac Ecron. | |
I Sa | WelBeibl | 17:53 | Pan ddaeth dynion Israel yn ôl wedi'r ymlid gwyllt ar ôl y Philistiaid dyma nhw'n ysbeilio'u gwersyll. | |
I Sa | WelBeibl | 17:54 | (Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.) | |
I Sa | WelBeibl | 17:55 | Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner. | |
I Sa | WelBeibl | 17:57 | Felly pan ddaeth Dafydd yn ôl ar ôl lladd y Philistiad, dyma Abner yn mynd ag e at y brenin. Roedd pen y Philistiaid yn ei law. | |