I SAMUEL
Chapter 10
I Sa | WelBeibl | 10:1 | Dyma Samuel yn cymryd potel o olew olewydd a'i dywallt ar ben Saul. Yna ei gyfarch e gyda chusan, a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn dy eneinio di i arwain ei bobl, Israel. Byddi'n arwain ei bobl ac yn eu hachub nhw o afael y gelynion sydd o'u cwmpas. A dyma beth fydd yn digwydd i ddangos i ti mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy ddewis di i arwain ei bobl: | |
I Sa | WelBeibl | 10:2 | wrth i ti adael heddiw byddi'n cyfarfod dau ddyn wrth ymyl bedd Rachel, yn Seltsach ar ffin Benjamin. Byddan nhw'n dweud: ‘Mae'r asennod wyt ti wedi bod yn chwilio amdanyn nhw wedi dod i'r golwg. Dydy dy dad ddim yn poeni amdanyn nhw bellach. Poeni amdanoch chi mae e, a gofyn, “Be ddylwn i ei wneud am fy mab?”’ | |
I Sa | WelBeibl | 10:3 | “Byddi'n mynd yn dy flaen wedyn, a dod at dderwen Tabor, lle byddi'n cyfarfod tri dyn ar eu ffordd i addoli Duw yn Bethel – un yn cario tair gafr ifanc, un arall yn cario tair torth o fara, a'r olaf yn cario potel groen o win. | |
I Sa | WelBeibl | 10:5 | “Wedyn, dos ymlaen i Gibeath Elohîm lle mae garsiwn milwrol gan y Philistiaid. Wrth i ti gyrraedd y dre, byddi'n cyfarfod criw o broffwydi yn dod i lawr o'r allor leol ar y bryn. Bydd nabl, drwm, pib a thelyn yn mynd o'u blaenau nhw, a hwythau'n dilyn ac yn proffwydo. | |
I Sa | WelBeibl | 10:6 | Yna bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod yn rymus arnat tithau, a byddi'n proffwydo gyda nhw. Byddi fel person gwahanol. | |
I Sa | WelBeibl | 10:7 | Pan fydd yr arwyddion yma i gyd wedi digwydd gwna beth bynnag sydd angen ei wneud, achos mae Duw gyda ti. | |
I Sa | WelBeibl | 10:8 | “Dos wedyn i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.” | |
I Sa | WelBeibl | 10:9 | Wrth iddo droi i ffwrdd i adael Samuel roedd Duw wedi newid agwedd Saul yn llwyr. A dyma'r arwyddion yna i gyd yn digwydd y diwrnod hwnnw. | |
I Sa | WelBeibl | 10:10 | Pan gyrhaeddodd Saul a'i was Gibea roedd criw o broffwydi'n dod i'w cyfarfod nhw. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Saul, a dechreuodd broffwydo gyda nhw. | |
I Sa | WelBeibl | 10:11 | Pan welodd pawb oedd yn ei nabod, Saul yn proffwydo gyda'r proffwydi, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Be yn y byd sydd wedi digwydd i fab Cish? Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?” | |
I Sa | WelBeibl | 10:12 | A dyma un dyn lleol yn ateb, “Ydy e o bwys pwy ydy tad proffwyd?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?” | |
I Sa | WelBeibl | 10:14 | Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?” “I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu'u ffeindio nhw aethon ni at Samuel.” | |
I Sa | WelBeibl | 10:16 | “Dweud wrthon ni fod yr asennod wedi'u ffeindio,” meddai Saul. Ond ddwedodd e ddim gair am beth oedd Samuel wedi'i ddweud wrtho am fod yn frenin. | |
I Sa | WelBeibl | 10:18 | Dwedodd wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Des i ag Israel allan o'r Aifft. Gwnes i'ch achub chi o afael yr Eifftiaid a'r gwledydd eraill i gyd oedd yn eich gormesu chi. | |
I Sa | WelBeibl | 10:19 | Ond erbyn hyn dych chi wedi gwrthod eich Duw sydd wedi'ch achub chi o bob drwg a helynt. Dych chi wedi dweud, “Na! Rho frenin i ni.”’ “Felly nawr,” meddai Samuel, “dw i eisiau i chi sefyll o flaen yr ARGLWYDD bob yn llwyth a theulu.” | |
I Sa | WelBeibl | 10:20 | A dyma fe'n dod â pob un o lwythau Israel o flaen Duw yn eu tro. Cafodd llwyth Benjamin ei ddewis. | |
I Sa | WelBeibl | 10:21 | Wedyn daeth â llwyth Benjamin ymlaen fesul clan. A dyma glan Matri yn cael ei ddewis. Ac yn y diwedd dyma Saul fab Cish yn cael ei ddewis. Roedden nhw'n chwilio amdano ond yn methu dod o hyd iddo. | |
I Sa | WelBeibl | 10:22 | Felly dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD eto, “Ydy'r dyn wedi dod yma?” Ac ateb Duw oedd, “Dacw fe, yn cuddio yng nghanol yr offer.” | |
I Sa | WelBeibl | 10:23 | Dyma nhw'n rhedeg yno i'w nôl a'i osod i sefyll yn y canol. Roedd e'n dalach na phawb o'i gwmpas. | |
I Sa | WelBeibl | 10:24 | A dyma Samuel yn dweud wrth y bobl, “Ydych chi'n gweld y dyn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis i chi? Does neb tebyg iddo.” A dyma'r bobl i gyd yn gweiddi, “Hir oes i'r brenin!” | |
I Sa | WelBeibl | 10:25 | Wedyn dyma Samuel yn esbonio i'r bobl beth fyddai'r drefn o gael brenin, a'i ysgrifennu mewn sgrôl. Cafodd honno ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Samuel yn anfon y bobl i gyd adre. | |
I Sa | WelBeibl | 10:26 | Aeth Saul adre hefyd, i Gibea; ac aeth dynion dewr oedd wedi'u cyffwrdd gan Dduw gydag e. | |