Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I SAMUEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 18
I Sa WelBeibl 18:1  Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
I Sa WelBeibl 18:2  O'r diwrnod hwnnw ymlaen dyma Saul yn cadw Dafydd gydag e, a chafodd e ddim mynd adre at ei dad.
I Sa WelBeibl 18:3  Roedd Jonathan a Dafydd wedi ymrwymo i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
I Sa WelBeibl 18:4  Tynnodd ei fantell a'i rhoi am Dafydd, a'i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i felt.
I Sa WelBeibl 18:5  Roedd Dafydd yn llwyddo beth bynnag roedd Saul yn gofyn iddo'i wneud. Felly dyma Saul yn ei wneud yn gapten ar ei fyddin. Ac roedd hynny'n plesio pawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
I Sa WelBeibl 18:6  Pan aeth y fyddin adre ar ôl i Dafydd ladd y Philistiad, roedd merched pob tref yn dod allan i groesawu'r brenin Saul. Roedden nhw'n canu a dawnsio'n llawen i gyfeiliant offerynnau taro a llinynnol.
I Sa WelBeibl 18:7  Wrth ddathlu'n frwd roedden nhw'n canu fel hyn: “Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!”
I Sa WelBeibl 18:8  Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd wedi gwylltio. “Maen nhw'n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau'i wneud e'n frenin!”
I Sa WelBeibl 18:9  Felly o hynny ymlaen roedd Saul yn amheus o Dafydd, ac yn cadw llygad arno.
I Sa WelBeibl 18:10  Y diwrnod wedyn dyma ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dod ar Saul, a dyma fe'n dechrau ymddwyn fel dyn gwallgo yn y tŷ. Roedd Dafydd wrthi'n canu'r delyn iddo fel arfer. Roedd gwaywffon yn llaw Saul,
I Sa WelBeibl 18:11  a dyma fe'n taflu'r waywffon at Dafydd. “Mi hoelia i e i'r wal,” meddyliodd. Digwyddodd hyn ddwywaith, ond llwyddodd Dafydd i'w osgoi.
I Sa WelBeibl 18:12  Roedd y sefyllfa'n codi ofn ar Saul, am fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, ond wedi'i adael e.
I Sa WelBeibl 18:13  Felly dyma Saul yn anfon Dafydd i ffwrdd a'i wneud yn gapten ar uned o fil o filwyr. Dafydd oedd yn arwain y fyddin allan i frwydro.
I Sa WelBeibl 18:14  Roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud, am fod yr ARGLWYDD gydag e.
I Sa WelBeibl 18:15  Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd e roedd yn ei ofni fwy fyth.
I Sa WelBeibl 18:16  Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin.
I Sa WelBeibl 18:17  Yna dyma Saul yn dweud wrth Dafydd, “Dyma Merab, fy merch hynaf i. Cei di ei phriodi hi os gwnei di ymladd brwydrau'r ARGLWYDD yn ddewr.” (Syniad Saul oedd, “Fydd dim rhaid i mi ei ladd e, bydd y Philistiaid yn gwneud hynny i mi!”)
I Sa WelBeibl 18:18  “Pwy ydw i, i gael bod yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin?” meddai Dafydd. “Dw i ddim yn dod o deulu digon pwysig.”
I Sa WelBeibl 18:19  Ond wedyn, pan ddaeth hi'n amser i roi Merab yn wraig i Dafydd, dyma Saul yn ei rhoi hi i Adriel o Mechola.
I Sa WelBeibl 18:20  Roedd Michal, merch arall Saul, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd. Pan glywodd Saul am y peth roedd wrth ei fodd.
I Sa WelBeibl 18:21  Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.”
I Sa WelBeibl 18:22  Dyma Saul yn cael ei swyddogion i ddweud yn ddistaw bach wrth Dafydd, “Ti'n dipyn o ffefryn gan y brenin, ac yn boblogaidd ymhlith y swyddogion i gyd hefyd. Dylet ti briodi ei ferch e.”
I Sa WelBeibl 18:23  Ond pan gawson nhw air yn ei glust am hyn, ymateb Dafydd oedd, “Ydych chi'n meddwl fod priodi merch y brenin mor syml a hynny? Dw i'n rhy dlawd! Dw i ddim digon pwysig!”
I Sa WelBeibl 18:24  Yna pan aeth y swyddogion i ddweud wrth Saul beth oedd ymateb Dafydd,
I Sa WelBeibl 18:25  dyma Saul yn dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth Dafydd mai'r unig dâl mae'r brenin eisiau am gael priodi ei ferch ydy'r blaengrwyn cant o Philistiaid! Mae e eisiau dial ar ei elynion.” (Gobaith Saul oedd y byddai Dafydd yn cael ei ladd gan y Philistiaid.)
I Sa WelBeibl 18:26  Pan aeth y swyddogion i ddweud hyn wrth Dafydd, cymrodd Dafydd fod hynny'n golygu y gallai briodi merch y brenin. Cyn ei bod yn rhy hwyr
I Sa WelBeibl 18:27  dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Philistiaid a lladd dau gant ohonyn nhw. Daeth â blaengrwyn pob un ohonyn nhw, a'u rhoi i'r brenin yn dâl am gael priodi ei ferch. Yna dyma Saul yn gadael iddo briodi Michal ei ferch.
I Sa WelBeibl 18:28  Roedd hi'n gwbl amlwg i Saul fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch, Michal, yn ei garu.
I Sa WelBeibl 18:29  Felly gwnaeth hyn iddo ofni Dafydd fwy fyth. Trodd Saul yn hollol yn erbyn Dafydd am weddill ei fywyd.
I Sa WelBeibl 18:30  Bob tro y byddai arweinwyr y Philistiaid yn dod allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus yn eu herbyn nag unrhyw un arall o arweinwyr byddin Saul; a daeth Dafydd yn enwog iawn.