Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 8
I Sa WelBeibl 8:1  Pan oedd Samuel wedi mynd yn hen, rhoddodd y gwaith o arwain Israel i'w feibion.
I Sa WelBeibl 8:2  Joel oedd enw'r hynaf ac Abeia oedd y llall. Roedd eu llys nhw yn Beersheba.
I Sa WelBeibl 8:3  Ond doedden nhw ddim yr un fath â'u tad. Roedden nhw'n twyllo er mwyn cael arian, ac yn derbyn breib am roi dyfarniad annheg.
I Sa WelBeibl 8:4  Felly dyma arweinwyr Israel yn cyfarfod â'i gilydd a mynd i weld Samuel yn Rama.
I Sa WelBeibl 8:5  Medden nhw wrtho, “Ti'n mynd yn hen a dydy dy feibion ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i'n harwain, yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd.”
I Sa WelBeibl 8:6  Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 8:7  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae'r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw'n ei wrthod; fi ydy'r un maen nhw wedi'i wrthod fel eu brenin.
I Sa WelBeibl 8:8  Mae'r un hen stori eto! Maen nhw wedi gwneud hyn ers i mi ddod â nhw allan o wlad yr Aifft – fy ngwrthod i ac addoli duwiau eraill. A nawr rwyt ti'n cael yr un driniaeth.
I Sa WelBeibl 8:9  Felly gwna beth maen nhw'n ofyn. Ond rhybuddia nhw'n glir, iddyn nhw ddeall y canlyniadau, a beth fydd y brenin yn ei wneud.”
I Sa WelBeibl 8:10  Felly dyma Samuel yn rhannu gyda'r bobl oedd yn gofyn am frenin beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrtho.
I Sa WelBeibl 8:11  Dwedodd, “Dyma sut fydd y brenin yn eich trin chi: Bydd yn cymryd eich meibion a'u gwneud nhw'n farchogion i yrru ei gerbydau rhyfel ac i fod yn warchodwyr personol iddo.
I Sa WelBeibl 8:12  Bydd yn gwneud rhai yn gapteiniaid ar unedau o fil neu o hanner cant. Bydd eraill yn gweithio ar ei dir e ac yn casglu'r cnydau. Yna eraill eto yn gwneud arfau ac offer ar gyfer ei gerbydau rhyfel.
I Sa WelBeibl 8:13  Bydd yn cymryd eich merched hefyd i gymysgu persawr, i goginio ac i bobi bara iddo.
I Sa WelBeibl 8:14  Bydd yn cymryd eich caeau, a'ch gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau, a'u rhoi i'w swyddogion.
I Sa WelBeibl 8:15  Bydd yn hawlio treth o un rhan o ddeg o'ch grawn a'ch gwin a'i roi i weision y palas a'r swyddogion eraill.
I Sa WelBeibl 8:16  Bydd yn cymryd eich gweision a'ch morynion, eich gwartheg gorau a'ch asynnod, i weithio iddo fe'i hun.
I Sa WelBeibl 8:17  A bydd yn cymryd un o bob deg o'ch defaid a'ch geifr. Byddwch chi'n gaethweision iddo!
I Sa WelBeibl 8:18  Bryd hynny byddwch chi'n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.”
I Sa WelBeibl 8:19  Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin.
I Sa WelBeibl 8:20  Dŷn ni eisiau bod yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd. Dŷn ni eisiau brenin i lywodraethu arnon ni, a'n harwain ni i ryfel.”
I Sa WelBeibl 8:21  Ar ôl gwrando ar bopeth ddwedodd y bobl, dyma Samuel yn mynd i ddweud am y cwbl wrth yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 8:22  “Gwna beth maen nhw'n ei ofyn,” meddai'r ARGLWYDD wrth Samuel, “a rho frenin iddyn nhw.” Felly dyma Samuel yn dweud wrth ddynion Israel, “Ewch adre i gyd.”