I SAMUEL
Chapter 6
| I Sa | WelBeibl | 6:2 | A dyma'r Philistiaid yn galw'r offeiriaid a'r rhai oedd yn dewino a gofyn iddyn nhw, “Be wnawn ni gydag Arch yr ARGLWYDD? Dwedwch wrthon ni sut ddylen ni ei hanfon yn ôl i'w lle ei hun.” | |
| I Sa | WelBeibl | 6:3 | Dyma nhw'n ateb, “Os ydych chi am anfon Arch Duw Israel yn ôl, peidiwch gwneud hynny heb anfon rhywbeth hefo hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon offrwm i gyfaddef bai gyda hi. Fel yna cewch eich iacháu a chewch wybod pam wnaeth e'ch cosbi chi.” | |
| I Sa | WelBeibl | 6:4 | “Ond beth ddylen ni ei anfon fel offrwm i gyfaddef ein bai?” medden nhw. Atebodd yr offeiriaid, “Mae pump llywodraethwr gan y Philistiaid, a dych chi a nhw wedi'ch taro gan yr un afiechyd. Felly gwnewch bump model aur o'r chwyddau a phump model o'r llygod | |
| I Sa | WelBeibl | 6:5 | sy'n difa'r wlad, fel teyrnged i Dduw Israel. Falle y bydd e'n stopio'ch cosbi chi, a'ch duwiau a'ch gwlad. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:6 | Pam dylech chi fod yn ystyfnig fel y Pharo a phobl yr Aifft? Gwnaeth Duw ffyliaid ohonyn nhw, ac roedd rhaid iddyn nhw adael i bobl Israel fynd! | |
| I Sa | WelBeibl | 6:7 | Felly, gwnewch wagen newydd sbon a gosod dwy fuwch sy'n magu lloi ac erioed wedi bod mewn harnais i'w thynnu. Cymerwch y lloi oddi arnyn nhw a'u rhoi yn y cwt. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:8 | Yna rhowch Arch Duw ar y wagen, a rhowch y pethau aur sy'n offrwm i gyfaddef bai mewn bocs wrth ei hochr. Yna gyrrwch y wagen i ffwrdd | |
| I Sa | WelBeibl | 6:9 | a gwylio. Os bydd hi'n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh, byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi'n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.” | |
| I Sa | WelBeibl | 6:10 | A dyna wnaeth y Philistiaid. Dyma nhw'n cymryd dwy fuwch oedd yn magu lloi a'u clymu wrth wagen, a rhoi eu lloi mewn cwt. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:11 | Yna dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar y wagen, a'r bocs gyda'r llygod aur a'r modelau o'r chwyddau ynddo. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:12 | A dyma'r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw'n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:13 | Roedd pobl Beth-shemesh yn casglu'r cynhaeaf gwenith yn y dyffryn. Pan welon nhw'r Arch roedden nhw wrth eu boddau. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:14 | Daeth y wagen i stop wrth ymyl carreg fawr yng nghae Josua, un o ddynion Beth-shemesh. Dyma nhw'n torri'r wagen yn goed tân ac aberthu'r ddwy fuwch a'u llosgi'n offrwm i Dduw. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:15 | Yna daeth Lefiaid yno i godi'r Arch i lawr, a'r bocs oedd yn dal y modelau aur, a'u gosod nhw ar y garreg fawr. A'r diwrnod hwnnw dyma bobl Beth-shemesh yn cyflwyno offrymau i'w llosgi'n llwyr ac aberthau i'r ARGLWYDD. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:16 | Arhosodd pump llywodraethwr y Philistiaid i wylio beth oedd yn digwydd, cyn mynd yn ôl i Ecron yr un diwrnod. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:17 | Roedd y chwyddau aur roddodd y Philistiaid i fod yn offrwm i gyfaddef eu bai i'r ARGLWYDD: un dros dref Ashdod, un dros Gasa, un dros Ashcelon, un dros Gath ac un dros Ecron. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:18 | Yna roedd yna lygoden aur ar gyfer pob un o drefi caerog llywodraethwyr y Philistiaid, a'r pentrefi gwledig o'u cwmpas hefyd. Mae'r garreg fawr y cafodd Arch Duw ei gosod arni yn dal yna yng nghae Josua hyd heddiw. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:19 | Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr ARGLWYDD, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi'u taro nhw mor galed. | |
| I Sa | WelBeibl | 6:20 | “Pwy sy'n gallu sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd yma?” medden nhw. “At bwy ddylai'r Arch fynd o'r fan yma?” | |