I SAMUEL
Chapter 21
I Sa | WelBeibl | 21:1 | Aeth Dafydd i Nob, lle roedd Achimelech yn offeiriad. Roedd Achimelech yn nerfus iawn pan aeth allan at Dafydd, a gofynnodd iddo, “Pam wyt ti ar dy ben dy hun, a neb gyda ti?” | |
I Sa | WelBeibl | 21:2 | A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig. | |
I Sa | WelBeibl | 21:4 | Ond dyma'r offeiriad yn ateb, “Does gen i ddim bara cyffredin o gwbl, dim ond y bara sydd wedi'i gysegru i Dduw. Cei hwnnw gen i os ydy'r milwyr ddim wedi cysgu gyda merched neithiwr.” | |
I Sa | WelBeibl | 21:5 | “Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy'r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly'n sicr ddim heddiw. Maen nhw wedi cysegru'u hunain a'u harfau.” | |
I Sa | WelBeibl | 21:6 | Felly dyma'r offeiriad yn rhoi'r bara cysegredig iddo. Doedd ganddo ddim bara arall i'w gynnig. (Dyma'r bara oedd wedi cael ei gymryd oddi ar y bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD, i fara ffres gael ei osod yn ei le pan oedd hi'n amser gwneud hynny.) | |
I Sa | WelBeibl | 21:7 | Roedd un o weision Saul yn digwydd bod yno y diwrnod hwnnw. Doedd e ddim yn gallu gadael am ei fod wedi mynd ar lw i'r ARGLWYDD. Doeg oedd ei enw ac roedd yn dod o Edom, a fe oedd fforman bugeiliaid Saul. | |
I Sa | WelBeibl | 21:8 | Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Rôn i ar gymaint o frys i ufuddhau i'r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.” | |
I Sa | WelBeibl | 21:9 | Meddai'r offeiriad wrtho, “Mae cleddyf Goliath yma – y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela. Mae wedi'i lapio mewn clogyn tu ôl i'r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy'r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.” | |
I Sa | WelBeibl | 21:10 | Felly dyma Dafydd yn mynd yn ei flaen y diwrnod hwnnw, a ffoi oddi wrth Saul at Achish brenin Gath. | |
I Sa | WelBeibl | 21:11 | Ond pan gyrhaeddodd dyma swyddogion Achish yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw'n canu wrth ddawnsio: ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd.’?” | |
I Sa | WelBeibl | 21:12 | Roedd clywed hyn yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achish, brenin Gath, yn ei wneud iddo? | |
I Sa | WelBeibl | 21:13 | Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o'u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e'n crafu drysau'r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf. | |
I Sa | WelBeibl | 21:14 | A dyma Achish yn dweud wrth ei swyddogion, “Edrychwch mae'r dyn yn wallgof! Pam ddaethoch chi ag e ata i? | |