I SAMUEL
Chapter 30
I Sa | WelBeibl | 30:1 | Erbyn i Dafydd a'i ddynion gyrraedd yn ôl i Siclag ddeuddydd wedyn, roedd yr Amaleciaid wedi bod yno ac wedi ymosod ar dde Jwda a Siclag. Roedden nhw wedi llosgi Siclag, | |
I Sa | WelBeibl | 30:2 | ac wedi cymryd y gwragedd oedd yno yn gaethion, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond wedi mynd â nhw i ffwrdd gyda nhw. | |
I Sa | WelBeibl | 30:3 | Roedd y dre wedi'i llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd a'u plant wedi'u cymryd yn gaethion. | |
I Sa | WelBeibl | 30:4 | A dyma Dafydd a'i ddynion yn dechrau crio'n uchel nes eu bod nhw'n rhy wan i grio ddim mwy. | |
I Sa | WelBeibl | 30:5 | Roedd gwragedd Dafydd wedi'u cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel. | |
I Sa | WelBeibl | 30:6 | Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth taflu cerrig ato i'w ladd, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd i'w plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw. | |
I Sa | WelBeibl | 30:7 | Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd â'r effod i mi.” Daeth Abiathar a'r effod iddo. | |
I Sa | WelBeibl | 30:8 | A dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddi'n eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!” | |
I Sa | WelBeibl | 30:9 | Felly i ffwrdd a Dafydd, a'i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw'n cyrraedd Wadi Besor, a dyma rai o'r dynion yn aros yno. | |
I Sa | WelBeibl | 30:10 | Aeth Dafydd yn ei flaen gyda pedwar cant o'r dynion. (Roedd dau gant wedi aros ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor.) | |
I Sa | WelBeibl | 30:11 | Dyma nhw'n dod o hyd i ddyn o'r Aifft mewn cae, a mynd â fe at Dafydd. Dyma nhw'n rhoi ychydig o fwyd iddo a diod o ddŵr. | |
I Sa | WelBeibl | 30:12 | Wedyn dyma nhw'n rhoi bar o ffigys a dau lond dwrn o rhesins iddo, a daeth ato'i hun. Doedd e ddim wedi cael dim byd i'w fwyta na'i yfed ers tri diwrnod. | |
I Sa | WelBeibl | 30:13 | Dyma Dafydd yn ei holi, “O ble ti'n dod? Pwy ydy dy feistr di?” A dyma'r bachgen yn ateb, “Dw i'n dod o'r Aifft ac yn gaethwas i un o'r Amaleciaid. Gadawodd fy meistr fi yma dridiau yn ôl am fy mod i'n sâl. | |
I Sa | WelBeibl | 30:14 | Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid, ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.” | |
I Sa | WelBeibl | 30:15 | Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei di'n harwain ni at y criw wnaeth ymosod?” A dyma fe'n ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw na wnei di fy lladd i na'm rhoi i yn ôl i'm meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.” | |
I Sa | WelBeibl | 30:16 | Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bobman. Roedden nhw'n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda. | |
I Sa | WelBeibl | 30:17 | Yna cyn iddi wawrio dyma Dafydd a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhw'n ymladd drwy'r dydd nes oedd hi'n dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod. | |
I Sa | WelBeibl | 30:18 | Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wedi'i gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig. | |
I Sa | WelBeibl | 30:19 | Doedd neb ar goll, o'r ifancaf i'r hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd bawb a phopeth oedd wedi'i ddwyn yn ôl. | |
I Sa | WelBeibl | 30:20 | Yna cymerodd Dafydd y defaid a'r gwartheg a'u gyrru nhw o flaen gweddill ei anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!” | |
I Sa | WelBeibl | 30:21 | Aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig i'w ddilyn. Dyma'r dynion yn dod allan i'w gyfarfod e a'i filwyr. Pan gwrddon nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch. | |
I Sa | WelBeibl | 30:22 | Ond roedd rhai o'r dynion oedd wedi mynd gyda Dafydd yn ddynion drwg, a dechreuon nhw godi stŵr a dweud, “Pam ddylai'r rhain gael siâr o'r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Gad i bob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a'i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!” | |
I Sa | WelBeibl | 30:23 | Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i ni! Fe ydy'r un wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoi'r dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael. | |
I Sa | WelBeibl | 30:24 | Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Bydd siâr pawb yr un fath – y rhai aeth i ymladd a'r rhai arhosodd gyda'r offer. Bydd pawb yn cael yr un faint.” | |
I Sa | WelBeibl | 30:26 | Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe'n anfon peth o'r ysbail i'r arweinwyr yn Jwda roedd e'n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai. | |