I SAMUEL
Chapter 19
| I Sa | WelBeibl | 19:1 | Dyma Saul yn cyfadde i'w fab Jonathan, a'i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:2 | Felly dyma fe'n rhybuddio Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:3 | Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di'n cuddio. Gwna i siarad ag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb. Gwna i adael i ti wybod.” | |
| I Sa | WelBeibl | 19:4 | Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi'i wneud wedi bod yn dda i ti. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:5 | Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?” | |
| I Sa | WelBeibl | 19:6 | Gwrandawodd Saul ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!” | |
| I Sa | WelBeibl | 19:7 | Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a chafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:8 | Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw'n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o'i flaen. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:9 | Yna dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra oedd Dafydd yn canu'r delyn. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:10 | A dyma Saul yn trio trywanu Dafydd a'i hoelio i'r wal gyda'i waywffon. Ond llwyddodd Dafydd i'w hosgoi ac aeth y waywffon i'r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd. Y noson honno | |
| I Sa | WelBeibl | 19:11 | dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os wnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.” | |
| I Sa | WelBeibl | 19:12 | A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy'r ffenest, iddo redeg i ffwrdd a dianc. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:13 | Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:14 | Wedyn pan ddaeth dynion Saul i arestio Dafydd, dyma hi'n dweud wrthyn nhw, “Mae e'n sâl.” | |
| I Sa | WelBeibl | 19:15 | Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.” | |
| I Sa | WelBeibl | 19:16 | Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw'n dod o hyd i'r eilun-ddelw yn y gwely a'r blew gafr lle byddai'r pen. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:17 | “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” meddai Saul wrth Michal. A dyma hi'n ateb, “Dwedodd wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’” | |
| I Sa | WelBeibl | 19:18 | Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:20 | felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:21 | Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dechreuodd y rheiny hefyd broffwydo. Yna dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:22 | Yna aeth Saul ei hun i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe'n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda'r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho. | |
| I Sa | WelBeibl | 19:23 | Ond pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno – ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama. | |