Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II KINGS
Prev Up Next
Chapter 11
II K WelBeibl 11:1  Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia (brenin Jwda) wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â'r llinach frenhinol i gyd.
II K WelBeibl 11:2  Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram. Dyma hi'n cymryd Joas, mab Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma fe'n cael ei guddio gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e mo'i ladd ganddi.
II K WelBeibl 11:3  Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
II K WelBeibl 11:4  Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol i fynd i'w weld. Dyma fe'n cyfarfod gyda nhw, ac ar ôl dod i gytundeb, yn gwneud iddyn nhw gymryd llw yn y deml. Yna dyma fe'n dangos mab y brenin iddyn nhw,
II K WelBeibl 11:5  a gorchymyn, “Dyma dych chi i'w wneud: Ar y Saboth bydd un rhan o dair o'r unedau sydd ar ddyletswydd, yn gwarchod y palas.
II K WelBeibl 11:6  Bydd un rhan o dair wedi cymryd eu lle wrth giât Swr, a'r gweddill wrth y giât sydd tu ôl i'r gwarchodlu brenhinol.
II K WelBeibl 11:7  Bydd y ddwy uned sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin.
II K WelBeibl 11:8  Rhaid i chi sefyll o'i gwmpas gyda'ch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”
II K WelBeibl 11:9  Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada.
II K WelBeibl 11:10  Dyma'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau i'r capteniaid, sef arfau y Brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 11:11  Yna dyma'r gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gyda'u harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr i'r deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.
II K WelBeibl 11:12  Wedyn dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. A dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio drwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
II K WelBeibl 11:13  Dyma Athaleia'n clywed sŵn y gwarchodlu a'r bobl, a mynd atyn nhw i'r deml.
II K WelBeibl 11:14  Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler yn ôl y ddefod. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu a'r utgyrn yn canu ffanffer. Pan welodd hi hyn i gyd, dyma hi'n rhwygo'i dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”
II K WelBeibl 11:15  Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o'r deml heibio'r rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi. Rhaid peidio ei lladd yn y deml.”
II K WelBeibl 11:16  Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.
II K WelBeibl 11:17  Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD â'r brenin a'i bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb rhwng y brenin a'r bobl hefyd.
II K WelBeibl 11:18  Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a chafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau. Roedd Jehoiada'r offeiriad wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 11:19  Yna dyma fe'n galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol, a'r bobl i gyd. A dyma nhw'n arwain y brenin mewn prosesiwn o'r deml i'r palas drwy Giât y Gwarchodlu Brenhinol. A dyma'r brenin yn eistedd ar yr orsedd.
II K WelBeibl 11:20  Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd yn y palas.
II K WelBeibl 11:21  Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda.