JOEL
Chapter 3
Joel | WelBeibl | 3:2 | Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd i “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD” Yno bydda i'n eu barnu nhw am y ffordd maen nhw wedi trin fy mhobl arbennig i, Israel. Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman, rhannu y tir rois i iddyn nhw | |
Joel | WelBeibl | 3:3 | a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion. Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain, a merch fach am win i'w yfed. | |
Joel | WelBeibl | 3:4 | Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi! | |
Joel | WelBeibl | 3:5 | Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi. | |
Joel | WelBeibl | 3:6 | Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain. | |
Joel | WelBeibl | 3:7 | Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi! | |
Joel | WelBeibl | 3:8 | Bydda i'n rhoi'ch meibion a'ch merched chi i bobl Jwda i'w gwerthu. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud! | |
Joel | WelBeibl | 3:9 | Cyhoedda wrth y cenhedloedd: Paratowch eich hunain i fynd i ryfel. Galwch eich milwyr gorau! Dewch yn eich blaen i ymosod! | |
Joel | WelBeibl | 3:10 | Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau, a'ch crymanau tocio yn waywffyn. Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!” | |
Joel | WelBeibl | 3:11 | Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd. Dewch at eich gilydd yno! (“ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”) | |
Joel | WelBeibl | 3:12 | Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd, i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD. Yno bydda i'n eistedd i lawr i farnu'r cenhedloedd i gyd. | |
Joel | WelBeibl | 3:13 | Mae'r cynhaeaf yn barod i'w fedi gyda'r cryman! Mae'r winwasg yn llawn grawnwin sy'n barod i'w sathru! Bydd y cafnau yn gorlifo! Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg. | |
Joel | WelBeibl | 3:14 | Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad! | |
Joel | WelBeibl | 3:16 | Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion; a'i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu. Ond mae'r ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo, mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel. | |
Joel | WelBeibl | 3:17 | Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw a'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig. Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig, a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto. | |
Joel | WelBeibl | 3:18 | Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd, a llaeth yn llifo o'r bryniau; fydd nentydd Jwda byth yn sychu. Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo allan o deml yr ARGLWYDD, i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia. | |
Joel | WelBeibl | 3:19 | Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda, a lladd pobl ddiniwed yno, bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag ac Edom yn anialwch llwm. | |
Joel | WelBeibl | 3:20 | Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser, ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall. | |