Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 10
Levi WelBeibl 10:1  Dyma feibion Aaron, sef Nadab ac Abihw, yn gwneud rhywbeth wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei orchymyn. Dyma'r ddau yn cymryd padell dân bob un, rhoi tân arnyn nhw, a llosgi arogldarth. Ond roedden nhw wedi defnyddio tân ddaeth o rywle arall o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:2  A dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i'w llosgi nhw, a buon nhw farw yno o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:3  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dyma oedd yr ARGLWYDD yn ei olygu pan ddwedodd e: ‘Dw i am i'r offeiriaid ddangos fy mod i'n sanctaidd, a dw i am i'r bobl weld fy ysblander i.’” Roedd Aaron yn methu dweud gair.
Levi WelBeibl 10:4  Yna dyma Moses yn anfon am Mishael ac Eltsaffan (meibion Wssiel, oedd yn ewythr i Aaron). A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch â dau gorff eich perthnasau allan o'r gwersyll, yn bell oddi wrth y fynedfa i'r Tabernacl.”
Levi WelBeibl 10:5  Felly dyma nhw'n llusgo'r ddau allan gerfydd eu dillad, fel roedd Moses wedi dweud.
Levi WelBeibl 10:6  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i ddau fab arall, Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch galaru drwy adael i'ch gwallt hongian yn flêr, a drwy rwygo eich dillad. Os gwnewch chi, byddwch chi'n marw, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig gyda'r bobl i gyd. Ond bydd pawb arall o bobl Israel yn galaru am y dynion wnaeth yr ARGLWYDD eu lladd gyda'r tân.
Levi WelBeibl 10:7  Rhaid i chi beidio mynd allan o'r Tabernacl rhag i chi farw, am eich bod wedi cael eich eneinio ag olew i wasanaethu'r ARGLWYDD.” A dyma nhw'n gwneud fel roedd Moses yn dweud.
Levi WelBeibl 10:9  “Rhaid i ti a dy ddisgynyddion beidio yfed gwin neu ddiod feddwol cyn mynd i mewn i'r Tabernacl, rhag i chi farw. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Levi WelBeibl 10:10  Rhaid i chi fedru gwahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a rhwng beth sy'n aflan a beth sy'n lân.
Levi WelBeibl 10:11  A rhaid i chi ddysgu i bobl Israel y rheolau mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi iddyn nhw drwy Moses.”
Levi WelBeibl 10:12  Wedyn dyma Moses yn siarad gydag Aaron a'r ddau fab oedd ganddo ar ôl, sef Eleasar ac Ithamar: “Cymerwch yr offrwm grawn sydd ar ôl, a bwyta'r hyn sydd heb furum ynddo wrth ymyl yr allor. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 10:13  Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi'i gysegru. Eich siâr chi a'ch disgynyddion ydy e. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud.
Levi WelBeibl 10:14  Ond gyda'r frest sy'n cael ei chwifio a darn uchaf y goes ôl dde sy'n cael eu rhoi i chi, cewch chi a'ch meibion a'ch merched eu bwyta yn unrhyw le sydd wedi cael ei gysegru. Y darnau yma ydy'ch siâr chi o'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:15  Dyma'r darnau sy'n cael eu rhoi, gyda'r braster sydd i'w losgi, yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Dyma'ch siâr chi a'ch plant bob amser. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud.”
Levi WelBeibl 10:16  Buodd Moses yn edrych ym mhobman am fwch gafr yr offrwm i lanhau o bechod, ond darganfyddodd ei fod wedi cael ei losgi. Roedd e wedi digio gydag Eleasar ac Ithamar (y ddau fab oedd gan Aaron ar ôl).
Levi WelBeibl 10:17  “Pam wnaethoch chi ddim bwyta'r offrwm i lanhau o bechod yn y lle sydd wedi'i gysegru? Mae'r offrwm yn gysegredig iawn, ac mae Duw wedi'i roi i chi i dalu am ddrygioni'r bobl ac i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:18  Wnaeth y gwaed ddim cael ei gymryd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd, felly dylech fod wedi'i fwyta yn y cysegr fel y dwedais i.”
Levi WelBeibl 10:19  Ond dyma Aaron yn ateb Moses, “Meddylia. Heddiw roedd dau o'm meibion i wedi offrymu'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm sydd i'w losgi, ac eto meddylia beth sydd wedi digwydd! Fyddai'r ARGLWYDD wedi bod yn hapus petawn i wedi bwyta'r offrwm i lanhau o bechod heddiw?”
Levi WelBeibl 10:20  Ar ôl clywed esboniad Aaron, roedd Moses yn fodlon.