LEVITICUS
Chapter 2
| Levi | WelBeibl | 2:1 | “Pan mae rhywun yn dod ag offrwm o rawn i'r ARGLWYDD, dylai ddefnyddio'r blawd gwenith gorau. Dylai dywallt olew olewydd arno ac wedyn rhoi thus arno. | |
| Levi | WelBeibl | 2:2 | Wedyn mynd ag e at yr offeiriaid, disgynyddion Aaron. Bydd un ohonyn nhw yn cymryd llond llaw o'r blawd gwenith a'r olew, a'r thus i gyd, ac yn llosgi hwnnw fel ernes ar yr allor. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. | |
| Levi | WelBeibl | 2:3 | Mae'r offeiriaid, sef Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD. | |
| Levi | WelBeibl | 2:4 | “Pan dych chi'n cyflwyno offrwm o fara wedi'i bobi mewn popty pridd, defnyddiwch y blawd gwenith gorau. Dylai'r blawd gael ei gymysgu gydag olew olewydd i wneud bara heb furum ynddo neu fisgedi tenau wedi'u brwsio gyda'r olew. | |
| Levi | WelBeibl | 2:5 | “Os ydy'r offrwm yn cael ei grasu ar radell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd a dim burum. | |
| Levi | WelBeibl | 2:6 | Wedyn ei dorri'n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn. | |
| Levi | WelBeibl | 2:7 | “Os ydy'r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi'i goginio mewn olew olewydd. | |
| Levi | WelBeibl | 2:8 | Gallwch ddod ag offrwm grawn i'r ARGLWYDD os ydy e wedi'i baratoi gyda'r cynhwysion yma. Rhowch e i'r offeiriad, a bydd e'n mynd ag e at yr allor. | |
| Levi | WelBeibl | 2:9 | Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i'w losgi'n ernes ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. | |
| Levi | WelBeibl | 2:10 | Mae'r offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD. | |
| Levi | WelBeibl | 2:11 | “Does dim burum i gael ei ddefnyddio yn unrhyw offrwm o rawn sy'n cael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD. Dydy burum na mêl ddim i gael eu defnyddio mewn offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD. | |
| Levi | WelBeibl | 2:12 | Gallwch eu rhoi nhw fel offrwm o ffrwythau cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, ond ddylen nhw byth gael eu llosgi ar yr allor. | |
| Levi | WelBeibl | 2:13 | “Mae halen yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o ymrwymiad rhyngot ti a Duw. Felly paid anghofio rhoi halen ar dy offrwm o rawn. Rho halen ar bob offrwm rwyt ti'n ei gyflwyno i Dduw. | |
| Levi | WelBeibl | 2:14 | “Os wyt ti'n dod ag offrwm o rawn cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, defnyddia rawn aeddfed meddal wedi'i rostio neu ei falu'n flawd. | |