HAGGAI
Chapter 2
Hagg | WelBeibl | 2:1 | Yna ar yr unfed ar hugain o'r seithfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, dyma'r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: | |
Hagg | WelBeibl | 2:2 | “Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a'r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dwed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd: | |
Hagg | WelBeibl | 2:3 | ‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm, yn ei holl ysblander? A sut mae'n edrych i chi nawr? Dim byd o'i chymharu mae'n siŵr! | |
Hagg | WelBeibl | 2:4 | Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb,’—meddai'r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Hagg | WelBeibl | 2:5 | ‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’” | |
Hagg | WelBeibl | 2:6 | “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r tir. | |
Hagg | WelBeibl | 2:7 | Bydda i'n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n dod ac yn cyflwyno'u trysorau, a bydda i'n llenwi'r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Hagg | WelBeibl | 2:9 | ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi dweud.” | |
Hagg | WelBeibl | 2:10 | Ar y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr ARGLWYDD: | |
Hagg | WelBeibl | 2:11 | Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i'r offeiriaid am arweiniad o'r Gyfraith: | |
Hagg | WelBeibl | 2:12 | ‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi'i aberthu wedi'i lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu ryw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.” | |
Hagg | WelBeibl | 2:13 | A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw yn dod i gysylltiad â'r bwydydd hynny, fydd hynny'n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma'r offeiriaid yn ateb, “Bydd.” | |
Hagg | WelBeibl | 2:14 | Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae'r un peth yn wir am y bobl yma a'r genedl yma,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘a'u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw'n ei offrymu yn aflan! | |
Hagg | WelBeibl | 2:15 | “‘Meddyliwch sut roedd pethau cyn i'r gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddechrau. | |
Hagg | WelBeibl | 2:16 | Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o'r cafn, doedd ond dau ddeg yno. | |
Hagg | WelBeibl | 2:17 | Rôn i'n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai'r ARGLWYDD. | |
Hagg | WelBeibl | 2:18 | “‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfeini eu gosod i ailadeiladu teml yr ARGLWYDD, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis): | |
Hagg | WelBeibl | 2:19 | Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy'r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a'r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i'n mynd i'ch bendithio chi.’” | |
Hagg | WelBeibl | 2:20 | A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr ARGLWYDD ar y pedwerydd ar hugain o'r mis: | |
Hagg | WelBeibl | 2:21 | “Dwed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear. | |
Hagg | WelBeibl | 2:22 | Dw i'n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau'r gwledydd. Bydda i'n troi'r cerbydau rhyfel drosodd, gyda'i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a'u marchogion yn lladd ei gilydd. | |