HOSEA
Chapter 7
Hose | WelBeibl | 7:1 | dw i eisiau iacháu Israel. Ond mae pechod Effraim yn y golwg, a drygioni Samaria mor amlwg. Maen nhw mor dwyllodrus! Mae lladron yn torri i mewn i'r tai, a gangiau'n dwyn ar y strydoedd. | |
Hose | WelBeibl | 7:2 | Dŷn nhw ddim yn sylweddoli fy mod i'n gweld y drwg i gyd. Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw – dw i'n ei weld o flaen fy llygaid! | |
Hose | WelBeibl | 7:4 | Maen nhw i gyd yn godinebu! Maen nhw fel popty crasboeth – does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tân tra mae'n tylino'r toes, na pan mae'n cael ei bobi! | |
Hose | WelBeibl | 7:5 | Mae'r brenin yn cynnal parti, ac mae'r tywysogion yn meddwi; Mae e'n cynllwynio gyda phaganiaid | |
Hose | WelBeibl | 7:6 | ac yn troi ata i gan fwriadu brad. Bwriadau sydd fel popty poeth, yn mudlosgi drwy'r nos ac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore. | |
Hose | WelBeibl | 7:7 | Maen nhw i gyd fel popty crasboeth, yn lladd eu llywodraethwyr. Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio, a does dim un yn galw arna i! | |
Hose | WelBeibl | 7:8 | Mae Effraim wedi cymysgu gyda'r cenhedloedd. Mae fel bara tenau wedi'i losgi ar un ochr! | |
Hose | WelBeibl | 7:9 | Mae estroniaid yn sugno'i nerth, a dydy e ddim wedi sylwi! Mae fel hen ddyn a'i wallt yn britho heb iddo sylwi! | |
Hose | WelBeibl | 7:10 | Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn. Wnân nhw ddim troi'n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw! Er gwaetha'r cwbl maen nhw'n gwrthod troi ato. | |
Hose | WelBeibl | 7:11 | Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i'w thwyllo – mae'n galw ar yr Aifft am help, ac wedyn yn troi at Asyria. | |
Hose | WelBeibl | 7:12 | Bydda i'n taflu fy rhwyd i'w rhwystro rhag hedfan; bydda i'n eu dal nhw fel dal adar, ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw'n heidio at ei gilydd. | |
Hose | WelBeibl | 7:13 | Gwae nhw am geisio dianc oddi wrtho i! Dinistr gân nhw am wrthryfela yn fy erbyn i! Sut alla i eu gollwng nhw'n rhydd pan maen nhw'n dweud celwydd amdana i? | |
Hose | WelBeibl | 7:14 | Dŷn nhw ddim yn galw arna i o ddifrif. Maen nhw'n gorweddian ar eu gwlâu yn gweiddi, a thorri eu hunain â chyllyll wrth ofyn am ŷd a grawnwin. Maen nhw wedi troi cefn arna i, | |
Hose | WelBeibl | 7:15 | er mai fi wnaeth eu dysgu nhw. Fi wnaeth eu gwneud nhw'n gryf, ond maen nhw'n cynllwynio i wneud drwg i mi. | |