I CHRONICLES
Chapter 13
I Ch | WelBeibl | 13:1 | Dyma Dafydd yn gofyn am gyngor ei swyddogion milwrol (gan gynnwys capteiniaid yr unedau o fil ac o gant). | |
I Ch | WelBeibl | 13:2 | Dwedodd wrth y gynulleidfa gyfan, “Os mai dyna dych chi eisiau, ac os ydy'r ARGLWYDD ein Duw yn cytuno, gadewch i ni anfon at bawb ym mhob rhan o Israel, ac at yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu trefi, i'w gwahodd nhw ddod i ymuno gyda ni. | |
I Ch | WelBeibl | 13:3 | Gadewch i ni symud Arch ein Duw yn ôl yma. Wnaethon ni ddim gofyn am ei arweiniad o gwbl pan oedd Saul yn frenin.” | |
I Ch | WelBeibl | 13:4 | A dyma'r gynulleidfa'n cytuno. Roedd pawb yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud. | |
I Ch | WelBeibl | 13:5 | Felly dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd – o afon Shichor yn yr Aifft i Lebo-chamath, er mwyn symud Arch Duw yno o Ciriath-iearîm. | |
I Ch | WelBeibl | 13:6 | Dyma Dafydd a phobl Israel i gyd yn mynd i Baäla (sef Ciriath-iearîm) yn Jwda, i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD sy'n eistedd ar ei orsedd uwchben y cerwbiaid. | |
I Ch | WelBeibl | 13:7 | Dyma nhw'n gosod yr Arch ar gert newydd, a'i symud hi o dŷ Abinadab, gydag Wssa ac Achïo yn arwain y cert. | |
I Ch | WelBeibl | 13:8 | Roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu'n llawn hwyl o flaen Duw, ac yn canu i gyfeiliant telynau a nablau, tambwrinau, symbalau ac utgyrn. | |
I Ch | WelBeibl | 13:9 | Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Cidon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law i afael yn yr Arch. | |
I Ch | WelBeibl | 13:10 | Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa, a dyma fe'n ei daro'n farw am estyn ei law a chyffwrdd yr Arch. Bu farw yn y fan a'r lle o flaen Duw. | |
I Ch | WelBeibl | 13:11 | Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa; a dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛y ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). Dyna ydy enw'r lle hyd heddiw. | |
I Ch | WelBeibl | 13:12 | Roedd Duw wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch Duw ddod ata i?” meddai. | |
I Ch | WelBeibl | 13:13 | Felly wnaeth Dafydd ddim mynd â'r Arch adre i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. | |