Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 16
I Ch WelBeibl 16:1  Dyma nhw'n dod ag Arch Duw a'i gosod yn y babell roedd Dafydd wedi'i chodi iddi. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith Duw.
I Ch WelBeibl 16:2  Ar ôl cyflwyno'r offrymau yma, dyma Dafydd yn bendithio'r bobl yn enw'r ARGLWYDD.
I Ch WelBeibl 16:3  Yna dyma fe'n rhannu bwyd i bawb yn Israel – dynion a merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen datys a theisen rhesin.
I Ch WelBeibl 16:4  Yna dyma fe'n penodi rhai o'r Lefiaid i arwain yr addoliad o flaen Arch yr ARGLWYDD, i ailadrodd yr hanes wrth ganu a moli'r ARGLWYDD, Duw Israel.
I Ch WelBeibl 16:5  Asaff oedd y pennaeth, a Sechareia yn ei helpu. Roedd Jeiel, Shemiramoth, Iechiel, Matitheia, Eliab, Benaia, Obed-Edom, a Jeiel yn canu nablau a thelynau gwahanol, ac Asaff yn taro'r symbalau;
I Ch WelBeibl 16:6  a'r offeiriaid, Benaia a Iachsiel yn canu utgyrn yn rheolaidd o flaen Arch Ymrwymiad Duw.
I Ch WelBeibl 16:7  Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd i Asaff a'i gyfeillion, y gân hon o ddiolch:
I Ch WelBeibl 16:8  Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi'i wneud.
I Ch WelBeibl 16:9  Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
I Ch WelBeibl 16:10  Broliwch ei enw sanctaidd! Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.
I Ch WelBeibl 16:11  Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser.
I Ch WelBeibl 16:12  Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth – ei wyrthiau, a'r cwbl mae wedi ei ddyfarnu!
I Ch WelBeibl 16:13  Ie, chi blant ei was Israel; plant Jacob mae wedi'u dewis.
I Ch WelBeibl 16:14  Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e; yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.
I Ch WelBeibl 16:15  Cofiwch ei ymrwymiad bob amser, a'i addewid am fil o genedlaethau –
I Ch WelBeibl 16:16  yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham, a'r addewid wnaeth e ar lw i Isaac.
I Ch WelBeibl 16:17  Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob – ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!
I Ch WelBeibl 16:18  “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai, “yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”
I Ch WelBeibl 16:19  Dim ond criw bach ohonoch chi oedd – rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,
I Ch WelBeibl 16:20  ac yn crwydro o un wlad i'r llall, ac o un deyrnas i'r llall.
I Ch WelBeibl 16:21  Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw; roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
I Ch WelBeibl 16:22  “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i; peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”
I Ch WelBeibl 16:23  Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD! a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
I Ch WelBeibl 16:24  Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
I Ch WelBeibl 16:25  Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli! Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.
I Ch WelBeibl 16:26  Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu'r nefoedd!
I Ch WelBeibl 16:27  Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg; mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.
I Ch WelBeibl 16:28  Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
I Ch WelBeibl 16:29  Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch o'i flaen i gyflwyno rhodd iddo! Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr!
I Ch WelBeibl 16:30  Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd! Mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.
I Ch WelBeibl 16:31  Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen! Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”
I Ch WelBeibl 16:32  Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi! Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!
I Ch WelBeibl 16:33  Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e'n dod – mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!
I Ch WelBeibl 16:34  Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.
I Ch WelBeibl 16:35  Dwedwch, “Achub ni, O Dduw yr achubwr! Casgla ni ac achub ni o blith y cenhedloedd! Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd, ac yn brolio'r cwbl wyt ti wedi'i wneud.”
I Ch WelBeibl 16:36  Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! A dyma'r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!”
I Ch WelBeibl 16:37  Dyma Dafydd yn penodi Asaff a'i frodyr i arwain yr addoliad o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i wneud popeth oedd angen ei wneud bob dydd.
I Ch WelBeibl 16:38  Gyda nhw roedd Obed-Edom a'i chwe deg wyth o frodyr. Obed-edom, mab Iedwthwn, a Chosa oedd yn gofalu am y giatiau.
I Ch WelBeibl 16:39  (Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon.
I Ch WelBeibl 16:40  Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi'i rhoi i Israel.)
I Ch WelBeibl 16:41  Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi'u dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!)
I Ch WelBeibl 16:42  Heman a Iedwthwn oedd yn gofalu am yr utgyrn a'r symbalau a'r offerynnau cerdd eraill oedd yn cael eu defnyddio i foli Duw. A meibion Iedwthwn oedd yn gwarchod y fynedfa.
I Ch WelBeibl 16:43  Yna dyma'r bobl i gyd yn mynd adre, ac aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun.