Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 2
I Ch WelBeibl 2:1  Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
I Ch WelBeibl 2:3  Meibion Jwda: Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e.
I Ch WelBeibl 2:4  Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd.
I Ch WelBeibl 2:6  Meibion Serach: Simri, Ethan, Heman, Calcol a Dara – pump i gyd.
I Ch WelBeibl 2:7  Mab Carmi: Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi'i gysegru i Dduw.
I Ch WelBeibl 2:10  Ram oedd tad Aminadab, Aminadab oedd tad Nachshon, pennaeth llwyth Jwda.
I Ch WelBeibl 2:13  Jesse oedd tad Eliab (ei fab hynaf), yna Abinadab, Shamma,
I Ch WelBeibl 2:16  A'u chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail. Roedd gan Serwia dri mab – Abishai, Joab ac Asahel.
I Ch WelBeibl 2:17  Cafodd Abigail fab o'r enw Amasa, a'r tad oedd Jether yr Ismaeliad.
I Ch WelBeibl 2:18  Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Ieser, Shofaf ac Ardon.
I Ch WelBeibl 2:19  Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a chafodd hi fab arall iddo, sef Hur.
I Ch WelBeibl 2:21  Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi'i phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf.
I Ch WelBeibl 2:22  Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead.
I Ch WelBeibl 2:23  (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.
I Ch WelBeibl 2:24  Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.
I Ch WelBeibl 2:25  Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron: Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa.
I Ch WelBeibl 2:26  Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o'r enw Atara, a hi oedd mam Onam.
I Ch WelBeibl 2:27  Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël): Maas, Iamîn ac Ecer.
I Ch WelBeibl 2:28  Meibion Onam: Shammai a Iada. Meibion Shammai: Nadab ac Afishŵr.
I Ch WelBeibl 2:29  Gwraig Afishŵr oedd Abihaïl, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid.
I Ch WelBeibl 2:30  Meibion Nadab: Seled ac Apaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant.)
I Ch WelBeibl 2:31  Mab Apaïm: Ishi. Mab Ishi: Sheshan. Mab Sheshan: Achlai.
I Ch WelBeibl 2:32  Meibion Iada (brawd Shammai): Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant.)
I Ch WelBeibl 2:33  Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël.
I Ch WelBeibl 2:34  Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o'r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr.
I Ch WelBeibl 2:35  A dyma Sheshan yn rhoi un o'i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi'n cael mab iddo, sef Attai.
I Ch WelBeibl 2:39  Asareia oedd tad Chelets, Chelets oedd tad Elasa,
I Ch WelBeibl 2:41  Shalwm oedd tad Iecameia, a Iecameia oedd tad Elishama.
I Ch WelBeibl 2:42  Meibion Caleb, brawd Ierachmeël: Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron.
I Ch WelBeibl 2:44  Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam. Recem oedd tad Shammai.
I Ch WelBeibl 2:46  Dyma Effa, partner Caleb, yn geni Charan, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases.
I Ch WelBeibl 2:47  Meibion Iahdai: Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff.
I Ch WelBeibl 2:48  Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana.
I Ch WelBeibl 2:49  Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa.
I Ch WelBeibl 2:50  Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb. Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb: Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearîm),
I Ch WelBeibl 2:51  Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).
I Ch WelBeibl 2:52  Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearîm, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid,
I Ch WelBeibl 2:53  llwythau Ciriath-iearîm – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.)
I Ch WelBeibl 2:54  Disgynyddion Salma: pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid,
I Ch WelBeibl 2:55  a theuluoedd yr ysgrifenyddion oedd yn byw yn Iabets, sef y Tirathiaid, Shimeathiaid, a'r Swchathiaid. Y rhain ydy'r Ceneaid, sy'n ddisgynyddion i Chamath, tad Beth-rechab.