I CHRONICLES
Chapter 2
| I Ch | WelBeibl | 2:3 | Meibion Jwda: Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:4 | Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:7 | Mab Carmi: Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi'i gysegru i Dduw. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:16 | A'u chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail. Roedd gan Serwia dri mab – Abishai, Joab ac Asahel. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:18 | Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Ieser, Shofaf ac Ardon. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:19 | Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a chafodd hi fab arall iddo, sef Hur. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:21 | Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi'i phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:23 | (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:24 | Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:25 | Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron: Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:32 | Meibion Iada (brawd Shammai): Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant.) | |
| I Ch | WelBeibl | 2:33 | Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:34 | Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o'r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:35 | A dyma Sheshan yn rhoi un o'i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi'n cael mab iddo, sef Attai. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:42 | Meibion Caleb, brawd Ierachmeël: Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:49 | Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa. | |
| I Ch | WelBeibl | 2:50 | Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb. Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb: Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearîm), | |
| I Ch | WelBeibl | 2:53 | llwythau Ciriath-iearîm – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.) | |
| I Ch | WelBeibl | 2:54 | Disgynyddion Salma: pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid, | |