Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 7
I Ch WelBeibl 7:1  Meibion Issachar (pedwar i gyd): Tola, Pwa, Iashŵf a Shimron.
I Ch WelBeibl 7:2  Meibion Tola: Wssi, Reffaia, Ieriel, Iachmai, Ibsam a Shemwel. Nhw oedd pennau teuluoedd Tola. Roedd yna 22,600 o ddynion dewr wedi'u rhestru yn y cofrestrau teuluol adeg Dafydd.
I Ch WelBeibl 7:3  Mab Wssi: Israchïa. Meibion Israchïa: Michael, Obadeia, Joel ac Ishïa. (Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid.)
I Ch WelBeibl 7:4  Yn ôl y cofrestrau teuluol, roedd 36,000 o ddynion yn barod i ryfela am fod ganddyn nhw lot o wragedd a phlant.
I Ch WelBeibl 7:5  Roedd cyfanswm o 87,000 o ddynion dewr wedi'u rhestru ar gofrestrau teuluol claniau Issachar.
I Ch WelBeibl 7:6  Meibion Benjamin (tri i gyd): Bela, Becher, a Iediael.
I Ch WelBeibl 7:7  Meibion Bela: Etsbon, Wssi, Wssiel, Ierimoth, ac Iri. Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid eu teuluoedd. Roedd 22,034 wedi'u rhestru yn y cofrestrau teuluol.
I Ch WelBeibl 7:8  Meibion Becher: Semira, Ioash, Elieser, Elioenai, Omri, Ieremoth, Abeia, Anathoth, ac Alemeth. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Becher.
I Ch WelBeibl 7:9  Roedd 20,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr wedi'u rhestru yn eu cofrestrau teuluol.
I Ch WelBeibl 7:10  Mab Iediael: Bilhan. Meibion Bilhan: Iewsh, Benjamin, Ehwd, Cenaana, Seithan, Tarshish, ac Achishachar.
I Ch WelBeibl 7:11  Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Iediael. Roedd 17,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr yn barod i ymladd wedi'u rhestru yn eu cofrestrau teuluol.
I Ch WelBeibl 7:12  Roedd y Shwpiaid a'r Chwpiaid yn ddisgynyddion i Ir; a'r Chwshiaid yn ddisgynyddion i Acher.
I Ch WelBeibl 7:13  Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ietser, a Shalwm – meibion Bilha.
I Ch WelBeibl 7:14  Meibion Manasse: Asriel (gafodd ei eni i bartner Syriaidd Manasse. A'i phlentyn hi hefyd oedd Machir, tad Gilead.
I Ch WelBeibl 7:15  Priododd Machir un o wragedd y Chwpiaid a'r Shwpiaid, ac roedd ganddo chwaer o'r enw Maacha.) Yna ail fab Manasse oedd Seloffchad. (Dim ond merched gafodd hwnnw yn blant.)
I Ch WelBeibl 7:16  Dyma Maacha, gwraig Machir, yn cael mab, a'i alw yn Peresh. Roedd ganddo frawd o'r enw Sheresh, ac enw ei feibion oedd Wlam a Recem.
I Ch WelBeibl 7:17  Mab Wlam: Bedan. Y rhain oedd disgynyddion Gilead, mab Machir ac ŵyr Manasse.
I Ch WelBeibl 7:18  Ei chwaer Hamolecheth oedd mam Ish-hod, Abieser a Machla.
I Ch WelBeibl 7:19  Meibion Shemida oedd Acheian, Sichem, Lichi, ac Aniam.
I Ch WelBeibl 7:20  Disgynyddion Effraim: Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath,
I Ch WelBeibl 7:21  Safad, i Shwtelach. (Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg.
I Ch WelBeibl 7:22  Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma'i frodyr yn dod i'w gysuro.)
I Ch WelBeibl 7:23  Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu.
I Ch WelBeibl 7:24  (Merch Bereia oedd Sheëra, wnaeth adeiladu Beth-choron Isaf ac Uchaf, a hefyd Wssen-sheëra.)
I Ch WelBeibl 7:25  Reffach oedd ei fab, Resheff yn fab i hwnnw, yna i lawr drwy Telach, Tachan,
I Ch WelBeibl 7:28  Roedd eu tir nhw a'u cartrefi yn cynnwys Bethel a'i phentrefi, ac yn ymestyn i'r dwyrain at Naäran, ac i'r gorllewin at Geser a'i phentrefi. Hefyd Sichem a'i phentrefi cyn belled ag Aia a'i phentrefi yn y gogledd.
I Ch WelBeibl 7:29  Ar ffiniau tiriogaeth Manasse roedd trefi Beth-shean Taanach, Megido a Dor a'r pentrefi o'u cwmpas. Disgynyddion Joseff, mab Israel, oedd yn byw yno.
I Ch WelBeibl 7:30  Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, a Bereia. A Serach oedd eu chwaer.
I Ch WelBeibl 7:31  Meibion Bereia: Heber a Malciel, oedd yn dad i Birsaith.
I Ch WelBeibl 7:32  Heber oedd tad Jafflet, Shomer, a Chotham. A Shwa oedd eu chwaer.
I Ch WelBeibl 7:33  Meibion Jafflet: Pasach, Bimhal, ac Ashfat. Y rhain oedd meibion Jafflet.
I Ch WelBeibl 7:35  Meibion ei frawd Helem: Soffach, Imna, Shelesh, ac Amal.
I Ch WelBeibl 7:36  Meibion Soffach: Swa, Char-neffer, Shwal, Beri, Imra,
I Ch WelBeibl 7:40  Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Asher. Roedden nhw i gyd yn benaethiaid teulu, yn filwyr dewr ac arweinwyr medrus. Roedd 26,000 o filwyr yn barod i ymladd wedi'u rhestru yn y cofrestrau teuluol.