I CHRONICLES
Chapter 17
I Ch | WelBeibl | 17:1 | Pan oedd Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas, dyma fe'n dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch yr ARGLWYDD yn dal mewn pabell.” | |
I Ch | WelBeibl | 17:2 | A dyma Nathan yn ateb, “Mae Duw gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.” | |
I Ch | WelBeibl | 17:4 | “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ti ddim i adeiladu teml i mi fyw ynddi. | |
I Ch | WelBeibl | 17:5 | Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o babell i babell. | |
I Ch | WelBeibl | 17:6 | Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r arweinwyr oedd yn gofalu am bobl Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’ | |
I Ch | WelBeibl | 17:7 | “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. | |
I Ch | WelBeibl | 17:8 | Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog go iawn drwy'r byd i gyd. | |
I Ch | WelBeibl | 17:9 | Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen, | |
I Ch | WelBeibl | 17:10 | pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i'n mynd i drechu dy elynion di. Dw i'n dweud fod yr ARGLWYDD yn mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol! | |
I Ch | WelBeibl | 17:11 | Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu, bydda i'n codi un o dy linach di yn dy le – mab i ti. A bydda i'n gwneud ei deyrnas e'n gadarn. | |
I Ch | WelBeibl | 17:13 | Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi. Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe, yn wahanol i'r un o dy flaen di. | |
I Ch | WelBeibl | 17:16 | Yna dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “O ARGLWYDD Dduw, pwy ydw i? Dw i'n neb, na'm teulu chwaith. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! | |
I Ch | WelBeibl | 17:17 | Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, O Dduw, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ti'n delio gyda mi fel petawn i'n rhywun pwysig, o ARGLWYDD Dduw. | |
I Ch | WelBeibl | 17:19 | ARGLWYDD, am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma i ddangos mor fawr wyt ti. | |
I Ch | WelBeibl | 17:20 | “ARGLWYDD, does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall yn bod heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! | |
I Ch | WelBeibl | 17:21 | A phwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear. Aeth Duw i'w gollwng yn rhydd, a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw. | |
I Ch | WelBeibl | 17:22 | Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. | |
I Ch | WelBeibl | 17:23 | Felly, ARGLWYDD, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel ti wedi addo. | |
I Ch | WelBeibl | 17:24 | Wedyn byddi'n sicr yn enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig, | |
I Ch | WelBeibl | 17:25 | am dy fod ti, Dduw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo arnat ti. | |
I Ch | WelBeibl | 17:26 | Nawr, ARGLWYDD, ti ydy'r Duw go iawn. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i dy was. | |