Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 8
I Ch WelBeibl 8:1  Roedd gan Benjamin bump mab: Bela, yr hynaf, wedyn Ashbel, Achrach,
I Ch WelBeibl 8:6  Dyma ddisgynyddion Echwd (oedd yn benaethiaid y teuluoedd o Geba gafodd eu gorfodi i symud i Manachath):
I Ch WelBeibl 8:7  Naaman, Achïa a Gera. Gera wnaeth arwain y symudiad. Roedd yn dad i Wssa ac Achichwd.
I Ch WelBeibl 8:8  Cafodd Shacharaîm feibion yn Moab ar ôl ysgaru ei wragedd Chwshîm a Baara.
I Ch WelBeibl 8:9  Gyda'i wraig Chodesh cafodd feibion: Iobab, Sibia, Mesha, Malcam,
I Ch WelBeibl 8:10  Iewts, Sochia, a Mirma. Dyma'r meibion ganddo oedd yn arweinwyr teuluoedd.
I Ch WelBeibl 8:12  Meibion Elpaäl: Eber, Misham, Shemed (wnaeth adeiladu Ono a Lod a'r pentrefi o'u cwmpas),
I Ch WelBeibl 8:13  Bereia a Shema. Nhw oedd penaethiaid y teuluoedd oedd yn byw yn Aialon, wnaeth yrru pobl Gath i ffwrdd.
I Ch WelBeibl 8:27  Iaaresheia, Eliâ, a Sichri oedd meibion Ierocham.
I Ch WelBeibl 8:28  Y rhain oedd penaethiaid y teuluoedd oedd yn cael eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem.
I Ch WelBeibl 8:29  Roedd tad Gibeon yn byw yn Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha).
I Ch WelBeibl 8:30  Enw ei fab hynaf oedd Abdon, wedyn cafodd Swr, Cish, Baal, Nadab,
I Ch WelBeibl 8:32  Micloth oedd tad Shimea. Roedden nhw hefyd yn byw yn Jerwsalem gyda'i perthnasau.
I Ch WelBeibl 8:33  Ner oedd tad Cish, a Cish oedd tad Saul. Saul oedd tad Jonathan, Malci-shwa, Abinadab ac Eshbaal.
I Ch WelBeibl 8:34  Mab Jonathan: Merib-baal. Merib-baal oedd tad Micha.
I Ch WelBeibl 8:36  Achas oedd tad Iehoada, a Iehoada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri. Simri oedd tad Motsa,
I Ch WelBeibl 8:37  a Motsa oedd tad Binea. Raffa oedd enw mab Binea, Elasa yn fab i Raffa, ac Atsel yn fab i Elasa.
I Ch WelBeibl 8:38  Roedd gan Atsel chwe mab: Asricam, Bocherŵ, wedyn Ishmael, Sheareia, Obadeia, a Chanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Atsel.
I Ch WelBeibl 8:39  Meibion ei frawd Eshec: Wlam oedd yr hynaf, wedyn Iewsh, wedyn Eliffelet.
I Ch WelBeibl 8:40  Roedd meibion Wlam yn ddynion dewr ac yn gallu trin bwa saeth. Roedd ganddyn nhw gant pum deg o feibion ac wyrion. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Benjamin.