Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 9
I Ch WelBeibl 9:1  Cafodd cofrestrau teuluol eu cadw i bobl Israel i gyd. Maen nhw i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Roedd pobl Jwda wedi cael eu cymryd yn gaeth i Babilon am eu bod wedi bod yn anufudd.
I Ch WelBeibl 9:2  Y rhai cyntaf o'r Israeliaid i ddod yn ôl i fyw yn eu hardaloedd a'u trefi eu hunain oedd yr offeiriaid, y Lefiaid a gweision y deml.
I Ch WelBeibl 9:3  Dyma rai o bobl llwythau Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse yn setlo yn Jerwsalem.
I Ch WelBeibl 9:4  Roedd 690 o bobl o lwyth Jwda wedi setlo yn Jerwsalem: Teulu Wthai fab Amihwd, mab Omri, mab Imri, mab Bani, oedd yn un o ddisgynyddion Perets fab Jwda. Teulu Asaia, un o ddisgynyddion Shela. Teulu Iewel, un o ddisgynyddion Serach.
I Ch WelBeibl 9:5  Roedd 690 o bobl o lwyth Jwda wedi setlo yn Jerwsalem: Teulu Wthai fab Amihwd, mab Omri, mab Imri, mab Bani, oedd yn un o ddisgynyddion Perets fab Jwda. Teulu Asaia, un o ddisgynyddion Shela. Teulu Iewel, un o ddisgynyddion Serach.
I Ch WelBeibl 9:6  Roedd 690 o bobl o lwyth Jwda wedi setlo yn Jerwsalem: Teulu Wthai fab Amihwd, mab Omri, mab Imri, mab Bani, oedd yn un o ddisgynyddion Perets fab Jwda. Teulu Asaia, un o ddisgynyddion Shela. Teulu Iewel, un o ddisgynyddion Serach.
I Ch WelBeibl 9:7  O ddisgynyddion Benjamin: Salw fab Meshwlam, mab Hodafiâ, mab Hasenŵa.
I Ch WelBeibl 9:8  Ibneia fab Ierocham. Ela, mab Wssi ac ŵyr i Michri. Meshwlam fab Sheffateia, mab Reuel, mab Ibnïa.
I Ch WelBeibl 9:9  Roedd 956 o'u perthnasau nhw wedi'u rhestru yn y rhestrau teuluol. Roedd y dynion yma i gyd yn benaethiaid eu teuluoedd.
I Ch WelBeibl 9:11  Asareia fab Chilceia, mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf (oedd yn brif swyddog yn nheml Dduw);
I Ch WelBeibl 9:12  Adaia fab Ierocham, mab Pashchwr, mab Malcîa; a Maasai fab Adiel, mab Iachsera, mab Meshwlam, mab Meshilemith, mab Immer;
I Ch WelBeibl 9:13  a pherthnasau iddyn nhw oedd yn benaethiaid eu teuluoedd. 1,760 o ddynion oedd yn gallu cyflawni'r gwahanol dasgau oedd i'w gwneud yn nheml Dduw.
I Ch WelBeibl 9:14  O'r Lefiaid: Shemaia fab Chashwf, mab Asricam, mab Chashafeia, oedd yn perthyn i glan Merari;
I Ch WelBeibl 9:15  Bacbacâr; Cheresh; Galal; Mataneia fab Micha, mab Sichri, mab Asaff;
I Ch WelBeibl 9:16  Obadeia fab Shemaia, mab Galal, mab Iedwthwn; a Berecheia fab Asa, mab Elcana, oedd wedi byw yn y pentrefi yn ardal Netoffa.
I Ch WelBeibl 9:17  Gofalwyr y giatiau: Shalwm, Accwf, Talmon, Achiman, a'u perthnasau. (Shalwm oedd y pennaeth.)
I Ch WelBeibl 9:18  Cyn hyn, nhw oedd y gwylwyr yng ngwersylloedd y Lefiaid i'r dwyrain o Giât y Brenin.
I Ch WelBeibl 9:19  Shalwm fab Core, mab Ebiasaff, mab Cora, a'i berthnasau ar ochr ei dad (sef y Corahiaid), oedd yn gyfrifol am warchod y fynedfa i'r cysegr. Eu hynafiaid nhw oedd wedi bod yn gyfrifol am warchod y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.
I Ch WelBeibl 9:20  Phineas fab Eleasar, oedd yn arolygu'r gwaith ers talwm, ac roedd yr ARGLWYDD wedi bod gydag e.
I Ch WelBeibl 9:21  A Sechareia fab Meshelemeia oedd yn gwarchod y fynedfa i babell presenoldeb Duw.
I Ch WelBeibl 9:22  Roedd yna ddau gant un deg dau ohonyn nhw i gyd wedi cael eu dewis i warchod y fynedfa. Roedd eu henwau wedi'u rhestru yng nghofrestrau teuluol eu pentrefi. Y brenin Dafydd a Samuel y proffwyd oedd wedi'u penodi i'w swyddi.
I Ch WelBeibl 9:23  Felly nhw a'u disgynyddion oedd i ofalu am warchod y fynedfa i gysegr yr ARGLWYDD (sef y Tabernacl).
I Ch WelBeibl 9:24  Roedden nhw i'w warchod ar y pedair ochr: i'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.
I Ch WelBeibl 9:25  Roedd eu perthnasau o'r pentrefi yn dod atyn nhw bob hyn a hyn i wasanaethu gyda nhw am saith diwrnod.
I Ch WelBeibl 9:26  Roedd y pedwar prif ofalwr yn swyddogion y gellid eu trystio, ag yn gyfrifol am warchod y stordai lle roedd trysorau'r cysegr.
I Ch WelBeibl 9:27  Roedden nhw ar wyliadwriaeth drwy'r nos o gwmpas cysegr Duw. Nhw oedd yn gyfrifol amdano ac yn agor y drysau bob bore.
I Ch WelBeibl 9:28  Roedd rhai ohonyn nhw'n gyfrifol am lestri'r gwasanaeth. Roedden nhw i gyfri'r cwbl wrth eu cymryd allan a'u cadw.
I Ch WelBeibl 9:29  Roedd eraill yn gofalu am ddodrefn ac offer y lle sanctaidd. Nhw oedd â gofal am y blawd mân, y gwin, yr olew olewydd, y thus a'r perlysiau hefyd.
I Ch WelBeibl 9:30  (Ond dim ond offeiriaid oedd yn cael cymysgu'r perlysiau.)
I Ch WelBeibl 9:31  Roedd Matitheia, un o'r Lefiaid (mab hynaf Shalwm o glan Cora) yn gyfrifol am bobi'r bara ar gyfer yr offrymau.
I Ch WelBeibl 9:32  Roedd rhai o'u perthnasau, oedd yn perthyn i'r un clan, yn gyfrifol am baratoi'r bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob Saboth.
I Ch WelBeibl 9:33  Roedd y cantorion oedd yn benaethiaid ar deuluoedd y Lefiaid yn aros mewn ystafelloedd, ac yn rhydd o ddyletswyddau eraill. Roedd eu gwaith nhw yn mynd yn ei flaen ddydd a nos.
I Ch WelBeibl 9:34  Y rhain oedd penaethiaid teuluoedd llwyth Lefi, fel roedden nhw wedi'u rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem.
I Ch WelBeibl 9:35  Roedd Jeiel (tad Gibeon) yn byw yn nhre Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha).
I Ch WelBeibl 9:36  Abdon oedd enw ei fab hynaf, wedyn Swr, Cish, Baal, Ner, Nadab,
I Ch WelBeibl 9:38  Micloth oedd tad Shimeam. Roedden nhw hefyd yn byw gyda'i perthnasau yn Jerwsalem.
I Ch WelBeibl 9:39  Ner oedd tad Cish, a Cish oedd tad Saul. Wedyn Saul oedd tad Jonathan, Malci-shwa, Abinadab, ac Eshbaal.
I Ch WelBeibl 9:40  Mab Jonathan: Merib-baal, a Merib-baal oedd tad Micha.
I Ch WelBeibl 9:42  Achas oedd tad Iada, a Iada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri. Simri oedd tad Motsa,
I Ch WelBeibl 9:43  a Motsa oedd tad Binea. Reffaia oedd enw mab Binea, Elasa yn fab i Reffaia, ac Atsel yn fab i Elasa.
I Ch WelBeibl 9:44  Roedd gan Atsel chwe mab: Asricam, Bocherŵ, wedyn Ishmael, Sheareia, Obadeia, a Chanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Atsel.