Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 18
I Ch WelBeibl 18:1  Ar ôl hyn dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid, ac yn dwyn rheolaeth Gath a'r pentrefi o'i chwmpas oddi arnyn nhw.
I Ch WelBeibl 18:2  Wedyn dyma fe'n concro Moab. A daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.
I Ch WelBeibl 18:3  Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser, brenin talaith Soba wrth Chamath. Roedd e ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan afon Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod.
I Ch WelBeibl 18:4  Ond dyma Dafydd yn dal mil o'i gerbydau rhyfel, saith mil o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff.
I Ch WelBeibl 18:5  Daeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, ond lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dwy fil ohonyn nhw hefyd.
I Ch WelBeibl 18:6  Wedyn, dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syria yn Damascus. Daethon nhw hefyd o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd.
I Ch WelBeibl 18:7  Aeth Dafydd â'r tarianau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem.
I Ch WelBeibl 18:8  Cymerodd lot fawr o bres hefyd o Tifchath a Cwn, trefi Hadadeser. (Defnyddiodd Solomon y pres i wneud y basn mawr oedd yn cael ei alw “Y Môr,” a hefyd y pileri ac offer arall o bres.)
I Ch WelBeibl 18:9  Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro Hadadeser, brenin Soba, a'i fyddin i gyd,
I Ch WelBeibl 18:10  dyma fe'n anfon ei fab Hadoram ato i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Ac aeth â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e.
I Ch WelBeibl 18:11  A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi'i gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid.
I Ch WelBeibl 18:12  Roedd Abishai fab Serwia wedi lladd un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.
I Ch WelBeibl 18:13  A dyma fe'n gosod garsiynau yn Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.
I Ch WelBeibl 18:14  Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg.
I Ch WelBeibl 18:15  Joab (mab Serwia) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
I Ch WelBeibl 18:16  Sadoc fab Achitwf ac Abimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Shafsha oedd ei ysgrifennydd gwladol.
I Ch WelBeibl 18:17  Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn brif swyddogion hefyd.