I CHRONICLES
Chapter 26
I Ch | WelBeibl | 26:1 | Dyma wahanol grwpiau gofalwyr y giatiau: Disgynyddion Cora: Meshelemeia, mab Core (oedd yn un o feibion Asaff) | |
I Ch | WelBeibl | 26:4 | Yna meibion Obed-Edom: Shemaia, yr hynaf, wedyn Iehosafad, Ioach, Sachar, Nethanel, | |
I Ch | WelBeibl | 26:6 | Roedd gan ei fab Shemaia feibion hefyd. Roedden nhw'n benaethiaid eu teuluoedd, ac yn cael eu parchu'n fawr. | |
I Ch | WelBeibl | 26:7 | Meibion Shemaia oedd: Othni, Reffael, Obed, ac Elsabad. Roedd ei berthnasau, Elihw a Semacheia, yn cael eu parchu'n fawr hefyd. | |
I Ch | WelBeibl | 26:8 | Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Obed-Edom. Roedd parch mawr atyn nhw, eu meibion a'u perthnasau. Roedden nhw i gyd yn ddynion abl iawn i wneud eu gwaith. Roedd chwe deg dau ohonyn nhw yn perthyn i Obed-Edom. | |
I Ch | WelBeibl | 26:10 | Roedd gan Chosa, un o ddisgynyddion Merari, feibion: Shimri oedd y mab cyntaf (er nad fe oedd yr hynaf – ei dad oedd wedi rhoi'r safle cyntaf iddo). | |
I Ch | WelBeibl | 26:11 | Yna Chilceia yn ail, Tefaleia yn drydydd, a Sechareia yn bedwerydd. Nifer meibion a pherthnasau Chosa oedd un deg tri. | |
I Ch | WelBeibl | 26:12 | Roedd y grwpiau yma o ofalwyr wedi'u henwi ar ôl penaethiaid y teuluoedd, ac fel eu perthnasau roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau penodol yn y deml. | |
I Ch | WelBeibl | 26:13 | Y coelbren oedd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa giât oedd pawb yn gyfrifol amdani. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried. | |
I Ch | WelBeibl | 26:14 | A dyma sut y cawson nhw eu dewis: Aeth giât y dwyrain i ofal Shelemeia; giât y gogledd i'w fab Sechareia (dyn oedd yn arbennig o ddoeth); | |
I Ch | WelBeibl | 26:16 | yna giât y gorllewin (a giât Shalecheth oedd ar y ffordd uchaf) i Shwpîm a Chosa. Roedd eu dyletswyddau'n cael eu rhannu'n gyfartal. | |
I Ch | WelBeibl | 26:17 | Bob dydd roedd chwech Lefiad ar ddyletswydd i'r dwyrain, pedwar i'r gogledd a phedwar i'r de. Roedd dau ar ddyletswydd gyda'i gilydd yn y stordai. | |
I Ch | WelBeibl | 26:18 | Wedyn wrth yr iard i'r gorllewin roedd pedwar ar ddyletswydd ar y ffordd a dau yn yr iard. | |
I Ch | WelBeibl | 26:20 | Rhai o'r Lefiaid oedd hefyd yn gyfrifol am stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion yn cael eu cadw. | |
I Ch | WelBeibl | 26:21 | Roedd disgynyddion Ladan (oedd yn ddisgynyddion i Gershon drwy Ladan, ac yn arweinwyr eu clan) yn cynnwys Iechieli, | |
I Ch | WelBeibl | 26:22 | meibion Iechieli, Setham, a'i frawd Joel. Nhw oedd yn gyfrifol am stordai teml Dduw. | |
I Ch | WelBeibl | 26:23 | Wedyn dyma'r arweinwyr oedd yn ddisgynyddion i Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel: | |
I Ch | WelBeibl | 26:25 | Roedd ei berthnasau drwy Elieser yn cynnwys: Rechabeia ei fab, wedyn Ishaeia ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Joram, Sichri i Shlomith. | |
I Ch | WelBeibl | 26:26 | Shlomoth a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am yr holl stordai lle roedd y pethau oedd wedi'u cysegru gan y Brenin Dafydd yn cael eu cadw. (A pethau wedi'u cysegru gan benaethiaid teuluoedd oedd yn gapteiniaid unedau o fil ac o gant, a swyddogion eraill y fyddin. | |
I Ch | WelBeibl | 26:27 | Roedden nhw wedi cysegru peth o'r ysbail gafodd ei gasglu, a'i gyfrannu tuag at gynnal a chadw teml yr ARGLWYDD.) | |
I Ch | WelBeibl | 26:28 | Roedden nhw hefyd yn gyfrifol am bopeth gafodd ei gysegru gan y proffwyd Samuel, Saul fab Cish, Abner fab Ner, a Joab fab Serwia. Shlomith a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am bopeth oedd wedi cael ei gysegru. | |
I Ch | WelBeibl | 26:29 | Roedd Cenaniahw o glan Its'har, a'i feibion, yn gyfrifol am waith tu allan i'r deml, fel swyddogion a barnwyr dros bobl Israel. | |
I Ch | WelBeibl | 26:30 | Wedyn cafodd Chashafeia o glan Hebron a'i berthnasau (1,700 o ddynion abl) gyfrifoldebau yn Israel i'r gorllewin o'r Iorddonen. Roedden nhw'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu'r brenin. | |
I Ch | WelBeibl | 26:31 | Ierïa oedd pennaeth clan Hebron yn ôl y cofrestrau teuluol. (Pan oedd Dafydd wedi bod yn frenin am bedwar deg o flynyddoedd, dyma nhw'n chwilio drwy'r cofrestrau, a darganfod fod dynion abl o glan Hebron yn byw yn Iaser yn Gilead.) | |