Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 19
I Ch WelBeibl 19:1  Beth amser wedyn dyma Nachash, brenin yr Ammoniaid, yn marw, a'i fab yn dod yn frenin yn ei le.
I Ch WelBeibl 19:2  Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo ag e ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon i gydymdeimlo â Chanŵn,
I Ch WelBeibl 19:3  dyma swyddogion y wlad yn dweud wrtho, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg fod ei weision wedi dod atat ti i ysbïo ac archwilio'r wlad!”
I Ch WelBeibl 19:4  Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a'i siafio nhw, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre.
I Ch WelBeibl 19:5  Dyma negeswyr yn dod a dweud wrth Dafydd beth oedd wedi digwydd, anfonodd ddynion i'w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto.
I Ch WelBeibl 19:6  Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma Chanŵn a phobl Ammon yn anfon tri deg tair tunnell o arian i logi cerbydau a marchogion gan Aram-naharaîm, Aram-maacha a Soba.
I Ch WelBeibl 19:7  Dyma nhw'n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a'i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o'u trefi er mwyn mynd allan i frwydro.
I Ch WelBeibl 19:8  Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan.
I Ch WelBeibl 19:9  Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a threfnu eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd y brenhinoedd oedd wedi dod i ymladd ar eu pennau'u hunain ar dir agored.
I Ch WelBeibl 19:10  Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid.
I Ch WelBeibl 19:11  A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid.
I Ch WelBeibl 19:12  “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i eich helpu chi.
I Ch WelBeibl 19:13  Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud fel mae'n gweld yn dda.”
I Ch WelBeibl 19:14  Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw.
I Ch WelBeibl 19:15  Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai, ei frawd, a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn mynd yn ôl i Jerwsalem.
I Ch WelBeibl 19:16  Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n anfon am fwy o filwyr. A dyma'r Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i afon Ewffrates yn dod. Shofach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.
I Ch WelBeibl 19:17  Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi afon Iorddonen a dod i Chelam. A dyma Dafydd yn gosod ei fyddin yn rhengoedd i wynebu y Syriaid, ac yn dechrau ymladd yn eu herbyn.
I Ch WelBeibl 19:18  Dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith mil o filwyr cerbyd y Syriaid, a phedwar deg mil o filwyr traed. Lladdodd Shofach, cadfridog byddin y Syriaid, hefyd.
I Ch WelBeibl 19:19  Pan welodd milwyr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch â Dafydd, a dod o dan ei awdurdod. Felly, doedd y Syriaid ddim yn fodlon helpu'r Ammoniaid eto.