II SAMUEL
Chapter 16
II S | WelBeibl | 16:1 | Roedd Dafydd newydd fynd dros gopa'r bryn pan ddaeth Siba, gwas Meffibosheth, i'w gyfarfod. Roedd ganddo ddau asyn wedi'u cyfrwyo yn cario dau gan torth, can swp o rhesins, can swp o ffigys aeddfed a photel groen o win. | |
II S | WelBeibl | 16:2 | A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth ydy'r rhain sydd gen ti?” Atebodd Siba, “Mae'r asynnod i ti a dy deulu farchogaeth arnyn nhw. Mae'r bara a'r ffrwythau i'r milwyr eu bwyta. Ac mae'r gwin i unrhyw un fydd yn llewygu yn yr anialwch.” | |
II S | WelBeibl | 16:3 | Yna dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ble mae Meffibosheth, ŵyr dy feistr?” “Mae wedi aros yn Jerwsalem,” meddai Siba. “Mae'n meddwl y bydd pobl Israel yn rhoi gorsedd ei daid yn ôl iddo fe nawr.” | |
II S | WelBeibl | 16:4 | A dyma'r brenin yn dweud wrth Siba, “Os felly, dw i'n rhoi popeth oedd piau Meffibosheth i ti!” A dyma Siba'n dweud, “Dw i'n plygu o dy flaen di, fy meistr a'm brenin. Ti'n rhy garedig ata i.” | |
II S | WelBeibl | 16:5 | Pan ddaeth Dafydd i Bachwrîm, dyma ddyn o'r enw Shimei fab Gera (oedd yn perthyn i deulu Saul) yn dod allan o'r pentref. Roedd yn rhegi Dafydd yn ddi-stop | |
II S | WelBeibl | 16:6 | ac yn taflu cerrig ato, ac at y swyddogion, y milwyr a'r gwarchodlu oedd bob ochr iddo. | |
II S | WelBeibl | 16:8 | Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i ti am ladd teulu Saul. Roeddet ti wedi dwyn yr orsedd oddi arno, a nawr mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas i dy fab Absalom. Maen dy dro di i fod mewn helynt, y llofrudd!” | |
II S | WelBeibl | 16:9 | Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud wrth y brenin, “Pam ddylai ci marw fel hwnna gael rhegi fy meistr, y brenin? Gad i mi fynd a thorri ei ben i ffwrdd!” | |
II S | WelBeibl | 16:10 | Ond dyma'r brenin yn ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi, feibion Serwia. Os ydy e'n fy rhegi fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am fy melltithio i, pwy ydych chi i'w stopio?” | |
II S | WelBeibl | 16:11 | A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a'i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny. | |
II S | WelBeibl | 16:12 | Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld mod i'n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle'r holl felltithio yma.” | |
II S | WelBeibl | 16:13 | Felly aeth Dafydd a'i filwyr yn eu blaenau ar y ffordd. Ond roedd Shimei yn cadw i fyny â nhw ar ochr y bryn gyferbyn, ac yn rhegi a thaflu cerrig a phridd atyn nhw. | |
II S | WelBeibl | 16:14 | Roedd y brenin a'r bobl i gyd wedi blino'n lân erbyn iddyn nhw gyrraedd, felly dyma nhw'n cymryd seibiant. | |
II S | WelBeibl | 16:15 | Yn y cyfamser, roedd Absalom, a byddin Israel gyfan, wedi cyrraedd Jerwsalem. Roedd Achitoffel gydag e. | |
II S | WelBeibl | 16:16 | Yna dyma ffrind Dafydd, Chwshai yr Arciad, yn mynd i gyfarch Absalom a dweud, “Hir oes i'r brenin! Hir oes i'r brenin!” | |
II S | WelBeibl | 16:17 | Gofynnodd Absalom iddo, “Ai dyma beth ydy bod yn driw i dy ffrind, Dafydd? Pam est ti ddim gydag e?” | |
II S | WelBeibl | 16:18 | A dyma Chwshai yn ateb, “Na, dw i'n driw i'r un mae'r ARGLWYDD a'r bobl yma, sef pobl Israel i gyd, wedi'i ddewis. Gyda hwnnw bydda i'n aros. | |
II S | WelBeibl | 16:19 | A beth bynnag, rwyt ti'n fab iddo! Pam ddylwn i ddim dy wasanaethu di? Gwna i dy wasanaethu di fel gwnes i wasanaethu dy dad.” | |
II S | WelBeibl | 16:20 | Dyma Absalom yn gofyn i Achitoffel, “Rho gyngor i ni. Be ddylen ni ei wneud nesa?” | |
II S | WelBeibl | 16:21 | A dyma Achitoffel yn ateb, “Cysga gyda phartneriaid dy dad – y rhai wnaeth e eu gadael i edrych ar ôl y palas. Bydd pawb yn Israel yn gwybod wedyn dy fod wedi troi dy dad yn dy erbyn yn llwyr, a bydd hynny'n rhoi hyder i bawb sydd ar dy ochr di.” | |
II S | WelBeibl | 16:22 | Felly dyma nhw'n codi pabell i Absalom ar do fflat y palas, lle roedd pawb yn gallu gweld. A dyma Absalom yn mynd yno a chael rhyw gyda chariadon ei dad i gyd. | |