II SAMUEL
Chapter 24
II S | WelBeibl | 24:1 | Dro arall roedd yr ARGLWYDD wedi digio'n lân gydag Israel. Dyma fe'n gwneud i Dafydd achosi trwbwl iddyn nhw drwy orchymyn cyfrifiad o Israel a Jwda. | |
II S | WelBeibl | 24:2 | Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, i mi gael gwybod faint o bobl sydd gen i.” | |
II S | WelBeibl | 24:3 | Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?” | |
II S | WelBeibl | 24:4 | Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhw'n mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud. | |
II S | WelBeibl | 24:5 | Dyma nhw'n croesi afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser. | |
II S | WelBeibl | 24:6 | Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Îon, a rownd i Sidon. | |
II S | WelBeibl | 24:7 | Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda. | |
II S | WelBeibl | 24:8 | Cymerodd naw mis a thair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio drwy'r wlad i gyd. | |
II S | WelBeibl | 24:9 | Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna 800,000 o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a 500,000 yn Jwda. | |
II S | WelBeibl | 24:10 | Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.” | |
II S | WelBeibl | 24:11 | Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys: | |
II S | WelBeibl | 24:12 | “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’” | |
II S | WelBeibl | 24:13 | Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu dri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu dri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.” | |
II S | WelBeibl | 24:14 | Meddai Dafydd wrth Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.” | |
II S | WelBeibl | 24:15 | Felly'r bore hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o'r wlad farw. | |
II S | WelBeibl | 24:16 | Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.) | |
II S | WelBeibl | 24:17 | Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!” | |
II S | WelBeibl | 24:18 | Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.” | |
II S | WelBeibl | 24:19 | Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Gad. | |
II S | WelBeibl | 24:20 | Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. | |
II S | WelBeibl | 24:21 | “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i'r ARGLWYDD i stopio'r pla yma ladd y bobl.” | |
II S | WelBeibl | 24:22 | Dyma Arafna'n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu a iau'r ychen yn goed tân. | |
II S | WelBeibl | 24:23 | Dw i am roi'r cwbl i'm meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt ti'n wneud.” | |
II S | WelBeibl | 24:24 | Ond dyma'r brenin yn ei ateb, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.” Felly dyma Dafydd yn prynu'r llawr dyrnu a'r ychen am bum deg darn arian. | |