JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 2
Job | WelBeibl | 2:1 | Daeth y diwrnod eto i'r bodau nefol ddod o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. | |
Job | WelBeibl | 2:2 | Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.” | |
Job | WelBeibl | 2:3 | A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.” | |
Job | WelBeibl | 2:4 | Atebodd Satan, “Croen am groen! – mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau! | |
Job | WelBeibl | 2:5 | Petaet ti'n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!” | |
Job | WelBeibl | 2:6 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, cei wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw'n fyw.” | |
Job | WelBeibl | 2:7 | Felly dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl. | |
Job | WelBeibl | 2:8 | A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel. | |
Job | WelBeibl | 2:9 | Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti'n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!” | |
Job | WelBeibl | 2:10 | Ond atebodd Job hi, “Ti'n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni'n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?” Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw. | |
Job | WelBeibl | 2:11 | Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw'n penderfynu mynd i'w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naamâ. Dyma nhw'n cyfarfod â'i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro. | |
Job | WelBeibl | 2:12 | Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw'n dechrau wylo'n uchel. Dyma'r tri yn rhwygo'u dillad ac yn taflu pridd i'r awyr. | |