JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 22
Job | WelBeibl | 22:3 | Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog? Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn? | |
Job | WelBeibl | 22:4 | Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol? Ai dyna pam mae e'n dy farnu di? | |
Job | WelBeibl | 22:7 | Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed, na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu. | |
Job | WelBeibl | 22:9 | ond yn troi gweddwon i ffwrdd heb ddim, ac yn dwyn eu hawliau oddi ar blant amddifad. | |
Job | WelBeibl | 22:10 | Dyna pam wyt ti wedi dy ddal yn y picil yma, ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig. | |
Job | WelBeibl | 22:11 | Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim, ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di! | |
Job | WelBeibl | 22:13 | Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod? Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon? | |
Job | WelBeibl | 22:14 | Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddio wrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’ | |
Job | WelBeibl | 22:16 | Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser, pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini. | |
Job | WelBeibl | 22:17 | Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’ a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’ | |
Job | WelBeibl | 22:18 | Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi! | |
Job | WelBeibl | 22:19 | Mae'r rhai cyfiawn yn gweld eu dinistr, ac yn llawen; mae'r diniwed yn eu gwawdio nhw. | |
Job | WelBeibl | 22:21 | Ildia dy hun i Dduw, i ti brofi ei heddwch, wedyn bydd pethau da yn digwydd i ti. | |
Job | WelBeibl | 22:23 | Os gwnei di droi nôl at yr Un sy'n rheoli popeth, cei dy adfer. Os gwnei di stopio ymddwyn yn anghyfiawn. | |
Job | WelBeibl | 22:24 | Os gwnei di drin dy aur fel petai'n ddim ond pridd, aur pur Offir yn ddim gwell na cherrig mewn nant, | |
Job | WelBeibl | 22:26 | Bydd yr Un sy'n rheoli popeth yn dy wefreiddio, a byddi'n gallu edrych eto ar Dduw. | |
Job | WelBeibl | 22:27 | Byddi'n gweddïo arno, a bydd e'n gwrando arnat ti, a byddi'n cadw dy addewidion iddo. | |
Job | WelBeibl | 22:28 | Pan fyddi'n penderfynu gwneud rhywbeth, byddi'n llwyddo, a bydd golau'n disgleirio ar dy ffyrdd. | |
Job | WelBeibl | 22:29 | Pan fydd pobl mewn trafferthion, byddi'n galw ‘Helpa nhw!’ a bydd Duw yn achub y digalon. | |