JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 9
| Job | WelBeibl | 9:2 | “Wrth gwrs, dw i'n gwybod fod hyn i gyd yn wir! Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw? | |
| Job | WelBeibl | 9:3 | Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e, fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o'i gwestiynau! | |
| Job | WelBeibl | 9:10 | Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni, a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif. | |
| Job | WelBeibl | 9:11 | Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld; mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi. | |
| Job | WelBeibl | 9:12 | Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio? Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’ | |
| Job | WelBeibl | 9:13 | Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint; mae helpwyr bwystfil y môr wedi'u bwrw i lawr. | |
| Job | WelBeibl | 9:15 | Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb, dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr. | |
| Job | WelBeibl | 9:16 | Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs, allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i – | |
| Job | WelBeibl | 9:17 | oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim, ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm. | |
| Job | WelBeibl | 9:18 | Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt, dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw! | |
| Job | WelBeibl | 9:19 | Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry! Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys? | |
| Job | WelBeibl | 9:20 | Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i; er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog. | |
| Job | WelBeibl | 9:21 | Dydw i ddim ar fai, ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi; dw i wedi cael llond bol ar fywyd! | |
| Job | WelBeibl | 9:22 | ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud, ‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’ | |
| Job | WelBeibl | 9:23 | Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn, mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog. | |
| Job | WelBeibl | 9:24 | Mae'r tir wedi'i roi yn nwylo pobl ddrwg, ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr. Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd? | |
| Job | WelBeibl | 9:25 | Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr; yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd. | |
| Job | WelBeibl | 9:26 | Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn, neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth. | |
| Job | WelBeibl | 9:28 | dw i'n dychryn wrth feddwl beth fydda i'n ei ddiodde nesa. Dw i'n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd! | |
| Job | WelBeibl | 9:32 | Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud, ‘Gad i ni fynd i gyfraith!’ | |
| Job | WelBeibl | 9:34 | Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen. | |