JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 8
Job | WelBeibl | 8:2 | “Am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i siarad fel yma? Mae dy eiriau'n wyllt fel gwynt stormus! | |
Job | WelBeibl | 8:3 | Ydy Duw yn gwyrdroi cyfiawnder? Ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn ystumio beth sy'n iawn? | |
Job | WelBeibl | 8:4 | Roedd dy feibion wedi pechu yn ei erbyn, ac mae e wedi gadael iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gwrthryfel. | |
Job | WelBeibl | 8:6 | os wyt ti'n ddi-fai ac yn byw yn iawn, bydd e'n dy amddiffyn di, ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn. | |
Job | WelBeibl | 8:8 | Gofyn i'r genhedlaeth sydd wedi mynd heibio, meddylia am yr hyn wnaeth pobl ddarganfod ers talwm. | |
Job | WelBeibl | 8:9 | (Achos dim ond yn ddiweddar y daethon ni i'r golwg, a dŷn ni'n gwybod dim; a dydy'n dyddiau ni ar y ddaear yn ddim ond cysgod.) | |
Job | WelBeibl | 8:12 | Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i'w torri, bydden nhw'n gwywo'n gynt na'r glaswellt. | |
Job | WelBeibl | 8:13 | Dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n anghofio Duw; mae gobaith yr annuwiol yn diflannu – | |
Job | WelBeibl | 8:16 | Dan wenau'r haul mae'n blanhigyn iach wedi'i ddyfrio, a'i frigau'n lledu drwy'r ardd. | |
Job | WelBeibl | 8:18 | Ond pan mae'n cael ei godi a'i ddiwreiddio, bydd yr ardd lle roedd yn tyfu yn dweud, ‘Dw i erioed wedi dy weld di.’ | |