JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 15
Job | WelBeibl | 15:5 | Dy bechod sy'n gwneud i ti ddweud y fath bethau; rwyt ti mor gyfrwys yn y ffordd ti'n siarad. | |
Job | WelBeibl | 15:9 | Beth wyt ti'n ei wybod yn fwy na ni? Beth wyt ti'n ei ddeall nad ydyn ni'n ei ddeall? | |
Job | WelBeibl | 15:11 | Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim yn ddigon? Mae ei eiriau mor garedig a thyner. | |
Job | WelBeibl | 15:12 | Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli? Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio. | |
Job | WelBeibl | 15:14 | Sut all person meidrol fod yn lân? Neu un wedi'i eni o wraig honni mai fe sy'n iawn? | |
Job | WelBeibl | 15:15 | Os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion, a'r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg, | |
Job | WelBeibl | 15:16 | sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig, sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr! | |
Job | WelBeibl | 15:20 | Mae'r dyn drwg yn dioddef poen ar hyd ei fywyd; a'r gormeswr creulon drwy gydol ei holl flynyddoedd. | |
Job | WelBeibl | 15:21 | Mae'n clywed sŵn sy'n ei fygwth o hyd, a phan mae bywyd yn braf mae'r dinistrydd yn dod. | |
Job | WelBeibl | 15:22 | Does ganddo ddim gobaith dianc o'r tywyllwch; ac mae'n gwybod y bydd y cleddyf yn ei ladd. | |
Job | WelBeibl | 15:23 | Mae'n crwydro – bydd yn fwyd i fwlturiaid; ac mae'n gwybod fod y diwrnod tywyll yn dod. | |
Job | WelBeibl | 15:24 | Mae'n cael ei ddychryn gan ofid a'i lethu gan bryder, fel brenin ar fin mynd i ryfel; | |
Job | WelBeibl | 15:25 | am ei fod wedi codi ei ddwrn i fygwth Duw, a gwrthwynebu'r Duw sy'n rheoli popeth; | |
Job | WelBeibl | 15:28 | mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio, ac mewn tai lle bydd neb ar ôl; rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel. | |
Job | WelBeibl | 15:29 | Fydd e ddim yn aros yn gyfoethog, a fydd yr hyn sydd ganddo ddim yn para; fydd ganddo ddim eiddo ar wasgar drwy'r wlad. | |
Job | WelBeibl | 15:30 | Fydd e ddim yn dianc o'r tywyllwch. Fel coeden a'r fflamau wedi llosgi ei brigau; bydd Duw yn anadlu arno, a bydd yn diflannu. | |
Job | WelBeibl | 15:31 | Dylai beidio trystio'r hyn sy'n ddiwerth, a'i dwyllo ei hun, fydd dim yn cael ei dalu'n ôl iddo. | |
Job | WelBeibl | 15:33 | Bydd fel gwinwydden yn gollwng ei grawnwin; neu goeden olewydd yn bwrw ei blodau. | |
Job | WelBeibl | 15:34 | Mae cwmni pobl annuwiol fel coeden ddiffrwyth; ac mae tân yn llosgi pebyll y rhai sy'n derbyn breib. | |