JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 21
Job | WelBeibl | 21:2 | “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud; rhowch cyn lleied â hynny o gysur i mi! | |
Job | WelBeibl | 21:4 | Ai cwyn yn erbyn person meidrol sydd gen i? Felly pam ga i ddim bod ychydig yn flin? | |
Job | WelBeibl | 21:9 | Mae eu cartrefi'n saff, does dim rhaid ofni, a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw'n eu cosbi. | |
Job | WelBeibl | 21:11 | Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd, ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn, | |
Job | WelBeibl | 21:13 | Maen nhw'n cael byw yn braf am flynyddoedd, ac yna marw'n dawel a mynd i'r bedd mewn heddwch. | |
Job | WelBeibl | 21:14 | Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni, does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di! | |
Job | WelBeibl | 21:15 | Pwy ydy'r Un sy'n rheoli popeth? Pam ddylen ni ei wasanaethu? Beth ydy'r pwynt i ni weddïo arno?’ | |
Job | WelBeibl | 21:16 | Ond dŷn nhw ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Dydy ffordd y rhai drwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi! | |
Job | WelBeibl | 21:17 | Pa mor aml mae lamp pobl ddrwg yn cael ei diffodd yn annisgwyl? Pa mor aml mae trychineb yn dod ar eu traws? Pa mor aml mae Duw'n gwneud iddyn nhw ddiodde am ei fod yn ddig? | |
Job | WelBeibl | 21:18 | Pa mor aml maen nhw'n cael eu chwythu i ffwrdd fel gwellt, neu fel us yn cael ei gipio ymaith gan y gwynt? | |
Job | WelBeibl | 21:19 | Ydy Duw yn cosbi plant yr annuwiol yn eu lle? Dylai gosbi'r annuwiol eu hunain – iddyn nhw ddysgu eu gwers! | |
Job | WelBeibl | 21:20 | Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain, ac yfed o ddigofaint yr Un sy'n rheoli popeth! | |
Job | WelBeibl | 21:21 | Dŷn nhw'n poeni dim beth fydd yn digwydd i'w teuluoedd pan fydd eu dyddiau eu hunain wedi dod i ben! | |
Job | WelBeibl | 21:22 | All rhywun ddysgu gwers i Dduw? Onid fe sy'n barnu'r angylion yn y nefoedd uchod? | |
Job | WelBeibl | 21:27 | O ydw, dw i'n gwybod beth sydd ar eich meddyliau chi, a'r drwg dych chi'n bwriadu ei wneud i mi. | |
Job | WelBeibl | 21:28 | Dych chi'n gofyn, ‘Ble mae tŷ'r gŵr bonheddig? Ble mae cartrefi'r bobl ddrwg wedi mynd?’ | |
Job | WelBeibl | 21:29 | Ydych chi ddim wedi gofyn i'r rhai sy'n teithio? Allwch chi ddim gwrthod eu tystiolaeth nhw: | |
Job | WelBeibl | 21:30 | fod pobl ddrwg yn cael eu harbed pan mae trychineb yn dod, ac yn dianc ar y dydd pan mae Duw'n ddig? | |
Job | WelBeibl | 21:31 | Does neb yn ceryddu dyn felly am ei ffyrdd; neb yn talu nôl iddo am beth mae wedi'i wneud. | |
Job | WelBeibl | 21:33 | Mae gorwedd dan bridd y dyffryn yn felys iddo, a phawb yn ei ddilyn mewn prosesiwn; ac aeth tyrfa fawr yno o'i flaen. | |