JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 4
Job | WelBeibl | 4:2 | “Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair? Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth! | |
Job | WelBeibl | 4:3 | Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu, a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu. | |
Job | WelBeibl | 4:4 | Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu, ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu. | |
Job | WelBeibl | 4:5 | Ond nawr, mae wedi digwydd i ti, a fedri di ddim godde'r peth; mae drwg wedi dy daro, a dyma ti'n anobeithio! | |
Job | WelBeibl | 4:7 | Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed? Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr? | |
Job | WelBeibl | 4:8 | Fel yma dw i'n ei gweld hi: y rhai sy'n aredig drygioni ac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny! | |
Job | WelBeibl | 4:9 | Mae Duw yn chwythu arnyn nhw, ac maen nhw'n cael eu difa; maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau. | |
Job | WelBeibl | 4:10 | Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno, pan mae dannedd y llewod ifanc wedi'u torri. | |
Job | WelBeibl | 4:16 | Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen, ond doeddwn i ddim yn ei nabod. Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd: | |
Job | WelBeibl | 4:19 | pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd, ac yn tarddu o'r llwch – y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn! | |
Job | WelBeibl | 4:20 | Gallan nhw gael eu sathru'n farw, unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud, a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw. | |