Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOB
Prev Up Next
Chapter 1
Job WelBeibl 1:1  Un tro roedd dyn o'r enw Job yn byw yng ngwlad Us. Roedd yn ddyn gonest, yn trin pobl eraill yn deg, ac yn ddyn oedd yn addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.
Job WelBeibl 1:3  A dyma restr o'i holl eiddo: saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum cant pâr o ychen a phum cant o asennod, a nifer fawr iawn o weithwyr. Roedd yn fwy cyfoethog nag unrhyw un arall o bobl y dwyrain i gyd.
Job WelBeibl 1:4  Roedd ei feibion yn arfer cynnal partïon yn eu cartrefi, pob un yn ei dro ar ddiwrnod penodol o'r wythnos. Bydden nhw'n gwahodd eu tair chwaer i fwyta ac yfed gyda nhw.
Job WelBeibl 1:5  Pan oedd yr wythnos o bartïo drosodd, byddai Job yn anfon amdanyn nhw iddyn nhw fynd drwy'r ddefod o gael eu glanhau. Byddai'n codi'n gynnar yn y bore, ac yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw ar eu rhan nhw i gyd. Roedd yn meddwl, “Falle fod fy mhlant i wedi pechu, ac wedi melltithio Duw.” Roedd Job yn gwneud hyn yn rheolaidd.
Job WelBeibl 1:6  Un diwrnod dyma'r bodau nefol yn dod i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dyma Satan yn dod gyda nhw.
Job WelBeibl 1:7  Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond crwydro yma ac acw ar y ddaear.”
Job WelBeibl 1:8  A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Satan, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.”
Job WelBeibl 1:9  Atebodd Satan, “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo!
Job WelBeibl 1:10  Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o'i gwmpas i'w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a phopeth sydd ganddo. Ti'n gadael iddo lwyddo beth bynnag mae'n ei wneud. Mae ganddo ddigon o anifeiliaid i lenwi'r wlad i gyd!
Job WelBeibl 1:11  Ond petaet ti'n cymryd y cwbl oddi arno, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”
Job WelBeibl 1:12  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Satan, “Edrych, cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau i'w eiddo; ond paid cyffwrdd Job ei hun.” Yna dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD.
Job WelBeibl 1:13  Un diwrnod, roedd meibion a merched Job yn bwyta ac yn yfed gwin mewn parti yn nhŷ'r brawd hynaf.
Job WelBeibl 1:14  A dyma negesydd yn dod at Job a dweud, “Roedd yr ychen yn aredig, a'r asennod yn pori heb fod yn bell oddi wrthyn nhw,
Job WelBeibl 1:15  a dyma'r Sabeaid yn ymosod ac yn eu cymryd nhw i gyd, a lladd y gweision gyda'r cleddyf. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:16  Tra oedd yn dal i siarad, dyma negesydd arall yn cyrraedd a dweud, “Mae mellten wedi lladd y defaid i gyd a'r gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw – mae'r cwbl wedi mynd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:17  Tra oedd hwn yn dal i siarad, daeth negesydd arall eto, a dweud, “Mae Caldeaid wedi dwyn y camelod i gyd. Roedd tair mintai ohonyn nhw, yn ymosod o wahanol gyfeiriadau. Maen nhw wedi cymryd y cwbl, ac wedi lladd y gweision i gyd. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:18  A tra oedd hwn yn dal i siarad dyma un arall yn dod ac yn dweud, “Roedd dy feibion a dy ferched di'n bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ'r brawd hynaf,
Job WelBeibl 1:19  ac yn sydyn dyma gorwynt ofnadwy yn chwythu dros yr anialwch ac yn taro'r tŷ. Syrthiodd yr adeilad ar ben y bobl ifanc a'u lladd nhw i gyd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:20  Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo'i ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â'i wyneb ar lawr,
Job WelBeibl 1:21  a dweud: “Ces i fy ngeni heb ddim, a bydda i'n marw heb ddim. Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi, a'r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i. Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli!”
Job WelBeibl 1:22  Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi'r bai ar Dduw.