JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 34
Job | WelBeibl | 34:2 | “Gwrandwch be dw i'n ddweud, chi ddynion doeth; dych chi'n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud. | |
Job | WelBeibl | 34:6 | Fi sy'n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd? Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf, er fy mod heb droseddu.’ | |
Job | WelBeibl | 34:10 | Felly, gwrandwch, chi ddynion deallus, Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a'r Un sy'n rheoli popeth yn gwneud dim o'i le! | |
Job | WelBeibl | 34:11 | Mae e'n talu i bobl am yr hyn maen nhw'n ei wneud, mae pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu! | |
Job | WelBeibl | 34:12 | Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg; dydy'r Un sy'n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder. | |
Job | WelBeibl | 34:17 | Ydy rhywun sy'n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu? Wyt ti'n mynd i gondemnio'r Un Grymus a Chyfiawn | |
Job | WelBeibl | 34:18 | sy'n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’ ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’? | |
Job | WelBeibl | 34:19 | Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion, nac yn ffafrio'r cyfoethog ar draul y tlawd; am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd! | |
Job | WelBeibl | 34:20 | Maen nhw'n marw yn sydyn yng nghanol y nos; mae'r bobl bwysig yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu; mae'r pwerus yn cael eu symud o'r ffordd yn hawdd. | |
Job | WelBeibl | 34:24 | Mae'n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad, ac yn gosod eraill i gymryd eu lle. | |
Job | WelBeibl | 34:25 | Am ei fod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud, mae'n eu dymchwel dros nos, a'u dryllio. | |
Job | WelBeibl | 34:28 | Maen nhw wedi achosi i'r tlodion alw arno, a gwneud iddo wrando ar gri'r anghenus. | |
Job | WelBeibl | 34:29 | Os ydy Duw'n cadw'n dawel, pwy sydd i'w feirniadu? Os ydy e'n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo? Ond mae e'n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth, | |
Job | WelBeibl | 34:32 | Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld. Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’ | |
Job | WelBeibl | 34:33 | Wyt ti'n credu y dylai Duw dalu'n ôl iddo, gan dy fod yn gwrthod gwrando? Ti sydd i ddewis, nid fi; gad i ni glywed beth sydd gen ti i'w ddweud. | |