JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 32
Job | WelBeibl | 32:1 | Felly dyma'r tri dyn yn stopio dadlau gyda Job, am ei fod mor siŵr ei fod yn iawn. | |
Job | WelBeibl | 32:2 | Ond roedd Elihw fab Barachel o deulu Bws, oedd yn perthyn i glan Ram, wedi gwylltio'n lân gyda Job am fynnu mai fe oedd yn iawn ac nid Duw. | |
Job | WelBeibl | 32:3 | Roedd yn wyllt gyda'r tri chyfaill hefyd, oedd yn condemnio Job ac eto'n methu ei ateb. | |
Job | WelBeibl | 32:4 | Roedd Elihw wedi cadw'n dawel tra oedden nhw'n siarad â Job, am eu bod nhw'n hŷn nag e. | |
Job | WelBeibl | 32:5 | Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio'n lân. | |
Job | WelBeibl | 32:6 | Yna, dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn: “Dyn ifanc dw i, a dych chi i gyd yn hen; felly dw i wedi bod yn cadw'n dawel ac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl. | |
Job | WelBeibl | 32:7 | Dwedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad; rho gyfle i'r rhai sydd â phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’ | |
Job | WelBeibl | 32:9 | Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth, does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn. | |
Job | WelBeibl | 32:11 | Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad, ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi, wrth i chi drafod y pethau hyn. | |
Job | WelBeibl | 32:12 | Ond mae'n gwbl amlwg i mi fod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job, a gwrthbrofi'r hyn mae wedi'i ddweud. | |
Job | WelBeibl | 32:13 | A pheidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn – Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’ | |
Job | WelBeibl | 32:14 | Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto, a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi. | |
Job | WelBeibl | 32:15 | Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach; does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud. | |
Job | WelBeibl | 32:16 | Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel? Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb. | |
Job | WelBeibl | 32:19 | Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor; fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio. | |
Job | WelBeibl | 32:20 | Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis. Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb. | |